Ymddangosiad cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru ar ôl goroesi cancr

Sgoriodd Daniel Gosset yn ei ymddangosiad cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru ar ôl goroesi cancr

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Daniel Gosset, sydd newydd wella ar ôl cael diagnosis o Non-Hodgkin’s Lymphoma, wedi sgorio yn ei ymddangosiad cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru dros Gaernarfon.

Cyhoeddodd ym mis Ionawr eleni ei fod yn glir o’r cancr.

Dywedodd Daniel fod sgorio’n “teimlo’n ffantastig” mewn cyfweliad ar Sgorio ddydd Sadwrn.

“Wrth fy modd yn gallu sgorio o flaen y Cofi Army sydd wedi cael dod yma heddiw, a mae’r gôl yn sbesial i fi hefyd,” medd Daniel.

“Mae wedi bod yn dwy flynadd anodd i bawb, so mae’n neis iawn gweld nhw nôl rownd y cae yn canu, ac mae’n rhoi lot o egni i’r hogia, ac o’ni’n falch o sgorio dau gôl neis iddyn nhw heddiw.

“Rhaid cymryd bob gêm fel mae o’n dod. O’n i’n siomedig i beidio ca’l mewn i Ewrop blwyddyn dwytha, felly gobeithio mynd un step yn bellach. Gynno ni squad da yn fama so gawni weld. Jysd y gêm gynta ydi hi, mae ’na lot o gema o flaen ni, so, mlaen i’r nesa’ wan.”