gan
Osian Wyn Owen
Mae’r Urdd a’i gefnogwyr wedi torri dwy record byd heddiw, gyda chymorth ysgolion ac unigolion Arfon.
Er mwyn dathlu pen-blwydd y mudiad yn 100, penderfynodd yr Urdd ymgeisio i dorri dwy record byd, ac maent wedi cyhoeddi eu bod wedi llwyddo.
Y nifer mwyaf o fideos o bobl yn canu’r un gân ar Twitter o fewn awr oedd 250, ond llwyddodd yr Urdd a’i ffrindiau i bostio 1176. Mae nifer ysgolion ac unigolion Arfon, o Ddyffryn Nantlle i Ddyffryn Ogwen, Llanfaglan i Lanllechid wedi cyfrannu at yr ymgais, gyda chrynodeb o’r fideos Twitter isod:
Caernarfon
Dyffryn Ogwen
Dyffryn Nantlle
Bangor a’r Felinheli
Bro’r Wyddfa