Bistro Lizzy’s yn agor yn fuan

Liz yn dweud ei hanes agor Caffi a Bistro i gofio am ei Mam a Nain

gan Elliw Llyr
image-13

Tu allan i Lizzy’s yn barod i agor

image-12

Stafell chwaethus yn Lizzy’s

image-14

Muriel o’r Castell gan Ifor Bach Jones

Mae Liz yn rhannu ei thaith i agor Caffi a Bistro mewn sgwrs ecsgliwsif gyda Caernarfon360. Yn ganol prysurdeb rhedeg Caffi a chael adeilad arall yn barod i fod yn Bistro mae Liz yn rhannu ei cholled nol yn Ebrill 2021 pan fu farw ei Mam ar ôl salwch cancr y fron. Penderfynais efo mam, tra oedd hi yn fyw, y byddwn yn agor caffi efo hi ond oherwydd natur y salwch yn anffodus ni welodd Mam y caffi bach yn cael ei agor meddai Liz yn Gorffennaf, 2021.

Mae Caffi Betty ar Stryd y Plas, oedd yn arfer bod yn Calleys ac wedyn ar ôl hynny Jivers. Eglurodd Liz bod gan deulu Calleys dau gaffi yng Nghaernarfon, un yn Stryd y Plas ar llall yn Stryd Twll yn Wal, Jakes gynt. Gwerthwyd y ddau gaffi i wahanol bobol, agorodd Calleys fel Jivers ac mi ddoth Crochan i’r hen Jakes.

Felly mae yn ddiddorol bod y ddau adeilad yn mynd yn ôl i ofal un teulu eto sef y fi, Liz Walker a fy ngŵr Stephen. Enwyd Caffi Betty ac wedyn Lizzy’s ar ôl fy mam a nain fel teyrnged i’r ddwy gafodd ddylanwad arnai dywedodd Liz.

Bydd Lizzy’s yn agor ar 15 Gorffennaf o 4 y prynhawn i bobol cael dod i weld y Bistro newydd a hefyd cyfle i weld y fwydlen ac archebu ar gyfer agoriad swyddogol ar 21 Gorffennaf. Bydd Y LLOFFT (@Lizzy’s) yn lleoliad unigryw fydd ar gael am buffet ar gyfer achlysuron fel cawod Babi, bedydd, te cnebrwn, parti swyddfa neu unrhyw achlysur arall.

Bydd Lizzy’s yn agored i ddechrau o Ddydd Mercher i Sadwrn o 11am tan 3pm am Brunch, Cinio Ysgafn a Tê Pnawn (i’w bwcio o flaen llaw) a hefyd o 5-9pm am fwydlen nos efo cynnig bwyd addas ar y fwydlen i bawb a thrwydded lawn.