Ugain o bethau bach a mawr yn digwydd i greu newid yng Ngwynedd

Grymuso Gwynedd yn galw ar grwpiau i gyflwyno syniad er mwyn manteisio ar gyllid

Dod ynghyd i gasglu sbwriel ydy un o weithgareddau Hwb Cefnogi Cymuned, sy’n brosiect gan Y Dref Werdd

Mae mudiadau ar draws Gwynedd wedi manteisio ar gynllun Grymuso Gwynedd i ddechrau gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.

A’r mis yma, mae cyfle arall i endidau cymunedol gyflwyno syniad, er mwyn gallu manteisio ar bres i’w helpu i’w wireddu.

Bob cwr o Wynedd

O’r 20 o brosiectau sydd eisoes wedi llwyddo i gael cefnogaeth y gronfa leol, un ydy Theatr y Ddraig yn y Bermo. Meithrin storïwyr i rannu straeon a chwedlau’r ardal yw’r prosiect, ac o lwyddo byddai hefyd yn dathlu’r Gymraeg a dangos nad tref Seisnig yw’r Bermo.

Cynnal sioe i ddathlu canmlwyddiant y neuadd goffa ydy Cofio’r Cant yng Nghricieth. Mae’n gyfle i ddod â’r gymdogaeth at ei gilydd i ddathlu cymeriad a Chymreictod yr ardal – nid yn unig mae’r prosiect yn hwb i les pobl leol ac yn cynyddu eu hymwneud â’i gilydd, ond mae’n hwb i’r economi leol hefyd.

Ehangu ac addasu’r gwasanaeth Presgripsiwn Cymdeithasol sy’n digwydd yn ardal Blaenau a Phenrhyndeudraeth. O lwyddo, bydd gwasanaeth y Dref Werdd yn mynd i’r afael a sawl mater cymdeithasol, gan gynnwys unigrwydd, pryder cymdeithasol, iselder, gordewdra a phroblemau iechyd yn gyffredinol.

Cyfle gwych i gymdogaethau

Mae Grymuso Gwynedd yn awyddus i glywed am syniadau gan ardaloedd a grwpiau newydd, ac mae’r dyddiad cau yn nesáu.

Er bod modd ymgeisio am hyd at £10,000-£15,000, does dim rhaid i’r syniad fod yn hynod o uchelgeisiol, ac mae modd ymgeisio am gyn lleied â £500 os mai dyna sy’n addas i’r prosiect cymunedol.

Beth sydd ei angen yw syniad sy’n cyffroi.

Syniad sy’n gallu gwneud gwahaniaeth bach i’r gymuned neu i fywydau pobol.

Syniad fydd yn cryfhau hunaniaeth, ased neu wasanaeth i’r ardal.

Dylai endidau cymunedol sy’n dymuno cyflwyno eu syniad gysylltu â gwynedd@mentermon.com, a hynny cyn gynted â phosib, gan fod y dyddiad cau nesaf ar 29 Ebrill 2024.

Weithiau, does dim angen arian i greu newid.

Ond pan mae angen ychydig o gyllid i’ch helpu i wireddu eich syniad, manteisiwch ar gronfa Grymuso Gwynedd.

Mae Grymuso Gwynedd yn un o raglenni Menter Môn, ac mae wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).