Cadwyn Gyfrinachau Ionawr 2024

Cyfle i ddod i ’nabod un o’r band Ben Twthill ’chydig yn well …neu Gethin Gwibdaith i eraill

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd

Enw – Gethin Thomas

Gwaith – Plastrwr/adeiladwr/chwara fo Ben Twthill

Cysylltiad – Yng ngwraig yn Cofi a mhlant yn hanar cofis

Disgrifiad – Dwi’m yn siwr

Nickname – Geth Gwibdaith ma siwr….

Atgôf plentyn? Cael mynd i siop i nôl fish fingers a da dads efo Nain

Y digwyddiad achosodd fwyaf o embaras i ti? Troi fyny yn Llandeilo i neud gig a gweld ar y poster ar y drws na wsos wedyn oedd o

Beth ydi’r peth pwysicaf ti wedi’i ddysgu? – Bod malwod o rar ddim yn neis i futa

Pwy ydi dy arwr? Malcom siop am fod yna trwy’r amsar

Beth ydi’r peth gorau am Gaernarfon? Y Cymreictod

Beth ydi dy ddiddordebau? Cerddoriaeth a mynd i’r Oval i watchad y Cofis

Wyt ti ofn unrhyw beth? Dwi’m rili ishio marw ond na, ddim fel arall

Pryd nesdi grio ddiwethaf? Pan oni’n chwil rhywben

Beth ydi dy hoff air/ymadrodd? Blydihel

Hoff Album? O’r Sbensh Mim Twm Llai oherwydd yr adeg gafodd o ei ryddhau oeddi’n amsar da a llawar o’r caneuon yn berthnasol i pawb

Hoff ddiod? Guinness

Hoff bryd o fwyd? Hmmmm….. anodd…. dibynnu sud dwi’n teimlo a pa ddiwrnod ydi hi….. Cyri

Ffaith diddorol? Aethoni i watchad gem Scarlets yn Llanelli, darllan y rhaglen ag oedd rhywun wedi gofyn wrth Ken Owens pwy oedd ei hoff fand….. Gwibdaith Hen Frân oedd ei ateb!

Oes gen ti uchelgais? Jysd bod yn hapus

Beth fyse ti’n gwneud ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned? Mynd am dro efo’r teulu yn bora a Twthill Vaults yn pnawn

Os fysa opsiwn i fod yn unrhywun arall, pwy fysa ti’n ddewis? Fats Domino i allu chwara piano

Hwn ta’r llall?

Te neu goffi? Coffi

Y traeth ta’r mynyddoedd? Mynyddoedd

Nadolig ta penblwydd? Penblwydd

Llyfr ta ffilm? Ffilm

Creision ta siocled? Siocled

Pwy ti’n enwebu at fis Chwefror? Manon Awst