Bwyty newydd Morfarch yn agor yn Doc Fictoria

Mae Tony am agor Bwyty newydd fydd yn cynnig awyrgylch gwahanol.

gan Elliw Llyr
image

Lleoliad bwyty y Morfarch

Mae Bwyty newydd yn agor ym mis Ebrill / Mai gan Tony Murphy, o Gaernarfon, a’i deulu gyda’r enwog Pete o Pete’s Eats yn rhan o’r fenter.

Bydd y Caffi ar agor 7 diwrnod yr wythnos a’r Bwyty ar agor 3 noson a carfari drwy’r dydd ar y Sul.

Mae Tony, sydd wedi dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac wedi treulio blynyddoedd yn gwella wedi llwyddo i seiclo o amgylch y Pyrenees ac Ucheldir yr Alban yn ystod yr amser hynny.

Dywedodd ‘yn fuan iawn ar ôl cymryd les yr hen Gaffi Ridiculously Rich yn y Doc cefais ddiagnosis o ganser brwnt iawn, dwi dal i gael triniaeth amdano hefo radio a chemotherapi. Dwi yn berson hynod bositif ac yn defnyddio myfyrio i helpu gyda fy ngwellhad. Dwi yn gobeithio neith hyn roi gobeithio i eraill sydd wedi bod neu gall fod mewn sefyllfa debyg i mi’.

Bydd mab a merch Tony yn rhan o’r Bwyty yng nghyd â Pete sydd yn enwog am ei gaffi yn Llanberis rhwng yr 1970au hyd 2020.

Bwriad yw cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol mewn gofod cyfeillgar a diogel gyda theimlad dyneiddiol, lle gall pawb ei fwynhau.