Cadwyn Gyfrinachau Caernarfon – Tachwedd 2023

Tro hwn Mark ‘Cameras’ Roberts sydd yn ateb y cwestiynau ac yn rhannu ffaith am y Brenin Charles…

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd
398263667_359971039902598

Mark gyda car ralio

Enw: Mark Roberts

Gwaith: Camera operator/supervisor

Beth yw dy gysylltiad â Chaernarfon? Symud yma i weithio yn Barcud

Disgrifia dy hun mewn tri gair. Blin hapus direidus

Nickname? Marko neu cameras

Unrhyw hoff atgof plentyndod? Chwara ffwtbol

Y digwyddiad achosodd fwyaf o emabaras iti? Gormod i rhestru

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn? Parch

Pwy yw dy arwr? Mam

Y peth gorau am Gaernarfon? Y pobol

Beth yw dy ddiddordebau? Cwcio cerddad

Oes gennyt ti ofn rhywbeth? Sbeidars a llnau

Pryd wnes di grio ddiwethaf? Mewn cnebrwn. Ma nhwn dod rhu amal rwan.

Beth yw dy hoff air? Ideal

Hoff ffilm, lyfr neu albym a pham? Snatch. Y cymeriad Brick too

Beth yw dy ddiod arferol? Guinness

Beth yw dy hoff bryd o fwyd? Italian

Beth ydy’r ffaith fwyaf diddorol amdanat? Fi nath ffilmio y brenin Charles yn rhoi ei droed ar dir yn Nghymru am tro cynta

Beth yw/oedd dy uchelgais / life goal mewn bywyd? Retirio efo pres

Sut fasa ti’n treulio dy ddiwrnod olaf ar y blaned? Efo pobol sydd yn agos mewn pub

Pa lun sy’n bwysig i ti, a pham? Rhai o lynia o teulu sydd ddim efo ni ddim mwy

Petai modd i ti gael bod yn unrhyw un neu unrhyw beth arall, pwy/beth fasa ti’n ddewis? Rhiwyn efo lot o bres

Naill ai neu:

Te neu goffi? Coffi dwyfor

Y traeth neu’r mynyddoedd? Traeth

Nadolig neu ben-blwydd? Nadolig

Ffilm neu nofel? Ffilm

Creision neu siocled? Crips

Pwy ti’n enwebu at fis Rhagfyr? Gethin Thomas “Ben Twtill”