Dathlu menter creadigol yn Cei Llechi

Mae Lisa Eurgain Taylor yn agor stiwdio ac yn edrych ymlaen i weithio ochr yn ochr â phobl creadigol

gan Elliw Llyr
image-2

Goriadau i’r stiwdio / gofod celf

image-3

Rhai o luniau Lisa

image-4

Gwaith Lisa mewn arddangosfa yn ddiweddar

Agorir stiwdio lluniau Lisa Eurgain Taylor nos Wener yma,8 Rhagfyr am 6.30 pm yn Uned 18 Cei Llechi.

Dywedodd Lisa:

Dwi mor ddiolchgar o gael y cyfle arbennig yma gan Cei Llechi, Galeri a rhaglen ARFOR. Mae o’n freuddwyd llwyr cael stiwdio/oriel fy hun a dwi wir yn edrych ymlaen.

Mae Lisa wedi bod yn artist llawn amser, gyflogedig ers 5 mlynedd bellach, gan ddweud:

Dwi wastad wedi gweithio o fy stiwdio adra yn y tŷ. Mi fydd cael lle cyhoeddus i weithio ac i werthu fy ngwaith yn brofiad arbennig ac yn gyfle gwych i ehangu a llwyfannu fy ngwaith celf mewn ffordd wahanol a chael ‘ffenest siop’ i werthu’r gwaith.

Mae’r cyfle hwn wedi dod oherwydd cynllun Arfor a ariennir gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Galeri a Cei Llechi. Mae Lisa wedi cael cyfle i arddangos ei gwaith fel rhan o arddangosfa ‘Cyfoes’ yn y Llyfrgell Genedlaethol diwedd Hydref a bod ar raglen S4C Cymry ar Gynfas gan wneud llun o Trystan Ellis-Morris.

Gymaint yw brwdfrydedd Lisa, fe roddodd lun o’r goriadau i’r stiwdio ar ei thudalen Facebook gan ddweud wrth Caernarfon360 ei bod:

Yn edrych ymlaen at weld aelodau’r cyhoedd a gweithio ochr yn ochr â busnesau / gwneuthurwyr eraill mewn gofod creadigol, gan fod peintio o adra ar fy mhen fy hun wedi bod yn brofiad unig ar adegau. Mi fydd hyn yn help mawr er mwyn trafod a sbarduno syniadau hefyd. Dwi’n gobeithio gallu cynnal gweithdai a digwyddiadau yno yn ogystal ag arddangos fy ngwaith. Maeo’n ofod mor lyfli a dwi methu disgwyl croesawu pobl yno.

Bydd cerddoriaeth byw, gwin â chyfle i weld a phrynu prints a gwaith gwreiddiol.