gan
Ysgol y Gelli




Bu disgyblion Ysgol y Gelli yn brysur drwy’r dydd heddiw gyda gweithgareddau i ddathlu Nawddsant Cariad Cymru. Roedd pawb wedi gwisgo pinc neu goch i ddod i’r ysgol. Roedd plant hŷn yr ysgol yn peintio dyfrliw o Ynys Llanddwyn, creu cardiau digidol yn ogystal a mwynhau’r stori. Roedd plant ieuengaf yr ysgol yn brysur yn creu cardiau, ail adrodd y stori a hyd yn oed creu dawns i gyd fynd a’r stori.
Diwrnod Santes Dwynwen hapus i bawb gan Ysgol y Gelli.