Mae siop lluniau Panorama wedi newid dwylo wrth i Geraint Thomas, neu Geraint Panorama i lawer, drosglwyddo’r goriadau i berchennog newydd. Ar ôl 19 o flynyddoedd yn cadw siop mae Geraint yn cychwyn ar gyfnod newydd gyda Senedd Cymru, gan weithio hefo Plaid Cymru yma yn y Gogledd.
Tra’n cadw’r siop roedd hefyd yn cynnal Clwb Camera gyda’r nos er mwyn annog diddordeb mewn tynnu lluniau. Yn ystod hynny o amser sbâr roedd ganddo roedd yn wirfoddolwr gan drefnu cyfathrebu YesCymru ers y ddwy flynedd diwethaf, gyda nifer ohonom ni wedi ei weld yn cerdded o gwmpas y lle ar ffon yn trefnu!
‘Rydwyf yn teithio o Bala 6 diwrnod yr wythnos, 51 wythnos y flwyddyn ac efallai ei fod wedi mynd yn ormod erbyn y diwedd. Bydd hwn yn gyfle i mi gael ’chydig o balans bywyd gwaith a chartref’ meddai Geraint ‘gyda disgwyl i mi fod ym Mae Caerdydd dau ddiwrnod yr wythnos’.
Bydd y perchennog newydd yn gwneud ’chydig o waith twtio cyn ail agor mewn ychydig wythnosau. Bydd Sara, perchennog Life Full Colour a Segontiwm yn cymryd drosodd, bydd llawer o ddarllenwyr wedi gweld newyddion am ei mentrau busnes ar Caernarfon360 yn y gorffennol.