Newid Byd

Sut mae’r coronafeirws wedi effeithio ar fy mywyd yn Awstralia.

Lisa Catrin Ball

Dwi’n byw ym Mrisbane, Awstralia, ers saith mis bellach, ar ôl symud yma o Bontnewydd. Mae’n saff dweud fod dipyn o newid byd wedi digwydd yma erbyn hyn.

 

Wedi cymhwyso fel fferyllydd ym Mhrydain haf diwethaf, y cam naturiol i mi oedd dechrau ar fy antur nesaf. Yna, eistedd rhagor o arholiadau er mwyn gweithio fel fferyllydd mewn ysbyty, yn Awstralia. A dyna fy mhenderfyniad gorau eto.

 

Mae gwlad yr haul a bywyd araf deg heb fod yn ormod o newid i mi. Wedi dweud hynny, mae newidiadau mawr ers symud yma gyntaf o ganlyniad i COVID-19. Mae’r teimlad o ryddid rhywsut wedi ei gipio.

 

Gwelodd Awstralia y pandemig yn lledu dros y byd cyn iddo gyrraedd yma. Yn deillio o hynny, mae’n bosib dweud ein bod yn lwcus mewn un ffordd o allu gweld sut oedd gwledydd eraill yn delio a’r pandemig gyntaf. O ganlyniad i hynny, mae Awstralia wedi gallu ymateb yn gynt, rwy’n falch o ddweud.

 

Yn raddol, mae patrwm bywyd wedi newid. O allu bod allan mewn grwpiau yn gyhoeddus o nid mwy na pump-cant o bobl, i ddeg yr wythnos wedyn, ac rwan i ddau, mae’n deimlad od.

Yn gyntaf, dyma’r wlad yn mynd i sioc, gyda phapur toiled a sebonau yn prinhau ac mor werthfawr ac aur. Yna, dechreuodd y croni o gynhwysion fel blawd a pasta. Ar ôl araith Prif Weinidog, Scott Morrison, yn dweud fod ddim angen gor brynu, mae’r blawd a pasta yn ôl ar y silffoedd ac yr obsesiwn o grynhoi blwyddyn o werth o gynhwysion yn dod i ben!

 

Yn wahanol i’r disgwyl mae’r ysbytai yn ddistawach nag erioed. Mae fel ein bod yn barod am y rhyfel yn erbyn COVID-19, ond ei fod heb ein cyrraedd, eto. Mae’r wardiau heb eu llenwi, a’r lefelau staff yn uchel, yn barod am amdani.

 

Gyda rhan helaeth o achosion corona yn dod o dramor ac o gychod mordeithiau, penderfynodd Scott Morrison i gau’r borderi. Yn sicr, mae’r penderfyniad o rwystro pobl i’r wlad wedi gwneud byd o wahaniaeth er mwyn atal y lledaeniad. Mae nifer o achosion newydd wedi bod yn isel iawn, gyda rhai dyddiau yn ddiweddar heb achosion newydd o gwbl. O ganlyniad, yn raddol bach mae’r cyfyngiadau yn cael eu codi. Mae plant yn cael dechrau yn ol yn yr ysgolion, ac mae’r parciau cenedlaethol a’r traethau yn agor unwaith yn rhagor.

 

Er gwaethaf y pandemig, nid yw popeth yn llym o ganlyniad. Yn bendant dwi’n teimlo fod y genedl yn fwy iach. Mae’r traciau rhedeg yn brysurach nag erioed, a phobl yn gwibio o gwmpas ar eu beiciau. Mae’r amser ychwanegol gartref yn caniatau i bobl ffocysu ar eu diddordebau a datblygu sgiliau newydd, fel garddio a chrefftau. Yn sicr mae sgiliau coginiol yn cynnyddu, o weld campwaith o chacennau a bara blasus ar yr Instagram. Mae natur yn cael llonydd, yr aer yn lan, a changarws yn cael eu denu mewn i’r dinasoedd.

 

Mae’n anodd gwybod am faint y bydd y cyfnod o fywyd od yn parhau, ond mae’n saff dweud ni fydd dim byd yn well na’r teimlad o ryddid pan fyddwn wedi gorchfygu’r coronafeirws.