Gŵyl newydd i ddathlu diwylliant a’r iaith Gymraeg

Bydd gŵyl gymunedol newydd, rhad ac am ddim, yn cael ei chynnal ym Mangor mis yma.

gan Erin Telford Jones

Band Pres Llareggub

Batala Bangor

Gethin Evans – Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen

Bydd gŵyl gymunedol newydd, rhad ac am ddim, yn cael ei chynnal ym Mangor mis yma, gan ddod â pherfformiadau byw, gweithdai creadigol, stondinau bwyd a diod a llawer mwy i’r ddinas.

Mae Gŵyl Adda Fest yn ddigwyddiad awyr agored, sy’n cael ei gynnal ym Mangor ar 28 Medi. Nod yr ŵyl yw dathlu’r celfyddydau, diwylliant, iaith a cherddoriaeth, gan ddod â theuluoedd o bob oed at ei gilydd i fwynhau cyfres o berfformiadau cyffrous gan artistiaid Cymraeg. Yn ychwanegol, bydd y diwrnod yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol, gweithgareddau creadigol, a stondinau bwyd a diod.

Wedi’i threfnu gan y cwmni theatr Cymraeg, Frân Wen, bydd yr ŵyl hefyd yn set i ail ran perfformiad trioleg arloesol newydd, Olion. Yn seiliedig ar stori Arianrhod o’r Mabinogi, mae Olion yn rhoi gwedd fodern i’r chwedl. Bydd y perfformiad yn archwilio gwrthwynebiad Arianrhod i ofynion llym ei theulu, sy’n arwain at storm oruwchnaturiol ddinistriol sy’n suddo ei chaer i ddyfnderoedd y cefnfor.

Mae Olion yn cynnig profiad trochi i gynulleidfaoedd ac mae wedi’i rhannu’n dair rhan: sioeau theatr byw, perfformiadau safle-benodol, gan gynnwys Gŵyl Adda Fest, a ffilm fer i ddilyn. Yn dilyn y sioe matinee ddydd Sadwrn, bydd perfformiadau byw dros gymuned Bangor, gan gychwyn ar y Pier, trwy Hirael a gorffen yng Ngŵyl Adda Fest, lle bydd golygfeydd ychwanegol.

Mae Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig yn Frân Wen yn falch iawn o fod yn trefnu’r ŵyl, sy’n cyd-fynd ag Olion, dywedodd: “Rydym wrth ein boddau o fod yn gallu dod â chymuned Bangor at ei gilydd i fwynhau’r diwrnod llawn hwyl, a hefyd i ddathlu perfformiad Olion. Y digwyddiad hwn yw’r cyntaf o’i fath i ni, ac mae’n gyffrous iawn i gynnwys y gymuned a’u croesawu i weld y perfformiad yn eu hardal. Gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i ddod i fwynhau’r celfyddydau, yn enwedig yng Ngogledd Cymru.”

Mae Elis Pari, Cyfarwyddwr Cymunedol y cwmni hefyd yn falch iawn o weld yr ŵyl yn dod i Fangor. Meddai: “Bydd yr ŵyl yn canolbwyntio ar ddathlu’r celfyddydau, diwylliant a cherddoriaeth, ac rydyn ni’n gobeithio y gall llawer o deuluoedd gymryd rhan yn y gweithgareddau fydd yn canolbwyntio at hanes, diwylliant a chymuned yr iaith Gymraeg. Mae’r ŵyl ar gyfer cymuned Bangor, ond gall unrhyw un ddod draw i fwynhau’r diwrnod ac unrhyw ran o berfformiad Olion.”

Mae nifer o’r artistiaid sydd wedi cadarnhau ar gyfer yr ŵyl o ardal Bangor, ac yn cynnwys Batala Bangor, Band Pres Llareggub, Sister Wives, Crinc, a Francis Rees.

Am fwy o wybodaeth am Ŵyl Adda Fest a pherfformiadau Olion, ewch i Frân Wen | Olion (franwen.com). Bydd Olion yn cael ei berfformio yn Gymraeg ond bydd yn gyfle hefyd i ddysgwyr a siaradwyr newydd fwynhau’r cynhyrchiad.

Gwybodaeth bellach

Dweud eich dweud