Cystadleuaeth Cyrri Caernarfon

Mae wastad yn noson hwyliog!

Ar Goedd
gan Ar Goedd

Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cynnal cystadleuaeth cyrri er mwyn codi pres i gynnal yr Ŵyl yn 2025 (a fydd yn costio tua £60,000!)

Mae’n noson hwyliog lle mae cystadleuwyr amatur yn dod â llond crochan o gyrri i Glwb Rygbi Caernarfon ac mae’r gynulleidfa’n blasu pob cyrri’n ddall ac yn eu marcio allan o 10. Bydd bar y Clwb Rygbi ar agor!

Cynhelir y noson am 19:30yh ar 14 Chwefror 2025. Bydd hyd at 10 cyrri i’w flasu ac mae’r marcio’n digwydd yn ddi-enw! Mae tocynnau’n £15 ac ar gael ar-lein neu yn Palas Print, Caernarfon. Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru i gystadlu, cysylltwch â post@gwylfwydcaernarfon.cymru.

Dweud eich dweud