Tafarn y Black Boy – ddylai’r enw newid?

Mae rhai pobol wedi gofyn am ailenwi un o dafarndai enwoca’ Cymru.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Wrth i’r dadlau barhau am gerfluniau i gofio imperialwyr a meistri caethwasiaeth mae rhai pobol ar y We yn holi a yw hi’n bryd ailenwi un o dafarndai enwoca’ Cymru – y Black Boy yng Nghaernarfon.

Roedd rhai yn cwestiynu beth yw cysylltiad yr enw â chaethwasiaeth, a dywedodd un person sy’n byw’n lleol mai mater o amser oedd hi nes byddai rhaid newid enw’r dafarn.

Mae Golwg360 wedi cysylltu gyda’r dafarn i ofyn am ymateb ond does dim ateb wedi dod hyd yn hyn.

Er hynny, fe atebodd y perchennog, John Evans, gwestiynau tebyg yn ôl yn 2008 pan ddywedodd hyn wrth bapur y Daily Post: “Fyswn i byth yn ystyried newid yr enw, hyd yn oed tasa fo’n ddrwg i fusnes, oherwydd mae’n rhaid i ni ddal gafael ar ein treftadaeth.”

Mae’r un enw ar dafarn yn Abertawe sydd yn eiddo i fragdy Brains, ac yn 2014 gwrthododd pobol leol gais gan gwmni Wetherspoons i newid enw y ‘Black Boy Hotel’ yn y Drenewydd i y ‘Llywelyn ap Gruffydd’.

Tair stori am yr enw

Dyw hanesydd sy’n arbenigo ar hanes Caernarfon ddim wedi clywed beirniadaeth am yr enw.

“Mae pobol bob tro a diddordeb yn yr enw, ond yn bersonol dydw i erioed wedi clywed unrhywbeth negyddol gan ymwelwyr,” meddai Melissa Lambe, sy’n cynnal teithiau tywys o amgylch y dre’.

Ac mae’n dweud bod ansicrwydd ynghylch union ystyr yr enw, gyda thair stori wahanol am ei darddiad.

“Does neb wir yn gwybod pa un o’r straeon sydd yn gywir”, meddai. “Dyna pam bod llun o’r bachgen du i’w weld un ochr o’r arwydd, a llun o’r bwi [black buoy] i’w weld ar yr ochr arall.”

Mae Golwg360 wedi bod yn chwilio am gefndir yr enw …

John Ystumllyn / Jack Black

John Ystumllyn

Un o’r damcaniaethau yw bod y dafarn wedi cael ei henwi ar ôl John Ystumllyn “y dygwyd ef yn wyllt o Affrica” sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Jack Black neu Jac Du.

Mae’n debyg mai un o deulu’r Winniaid a ddaeth â’r bachgen du i ogledd Cymru yng nghanol y ddeunawfed ganrif, o Affrica neu India’r Gorllewin, ond dyw hi ddim yn glir sut yn union cyrhaeddodd yn y lle cyntaf.

Mae un stori yn awgrymu i John Ystumllyn gael ei gipio o Affrica gan ddyn o’r enw Ellis Wynn ac mae awgrym arall mai anrheg oedd y bachgen du i Ellis Wynn gan ei chwaer oedd yn byw yn Llundain.

Wrth olrhain yr hanes mae’r awdur Alltud Eifion a gyhoeddodd bamffled am fywyd John Ystumllyn ym 1888 yn dweud “nad oes sicrwydd pa un o’r teulu ddaeth a’r bachgen du i’r Ystumllyn”, ac “fod un o’r teulu… [wedi] dal y bachgen mewn coed yn Affrica a’i ddwyn adref i’r Ystumllyn… ac iddyn fyned ag ef i Eglwys Criccieth, neu’r ynys i’w fedyddio.”

Dyw hi ddim yn glir chwaith faint oedd oed John Ystumllyn pan ddaeth i Gymru, ond y gred yw ei fod tua 13 oed.

Roedd y bardd a’r golygydd o ardal Tremadog, Alltud Efion, wedi sôn am John Ystumllyn: “Bu arnynt gryn drafferth i’w ddofi am amser hir, ac nis goddefid iddo fyned allan; ond wedi tipyn o drafferth gan y boneddigesau, dysgodd y ddwy iaith, a dysgodd ysgrifennu ; yna rhoddwyd ef yn yr ardd i ddysgu garddwriaeth, yr hyn a wnaeth yn dra pherffaith, gan e fod yn hynod gywrain.”

Yn ddiweddarach collodd John Ystumllyn ei le yn arddwr ar ôl dianc i Ddolgellau i briodi Margaret Gruffydd. Mi gawson nhw saith o blant, ond bu farw John Ystumllyn yn 1791 yn 46 oed.

Mae yna englyn gan Dafydd Shon James ar ei fedd ym mynwent Eglwys Sant Cynhaiarn, Ynyscynhaearn, ger Porthmadog:

Yn India gyna fe’m ganwyd – a ngamrau,

Ynghymru medyddiwyd;

Wele’r fan dan lechan lwyd,

Dy oeredd im daearwyd.

Brenin pryd tywyll

Siarl II

Mae rhai’n honni yn y dafarn yma y byddai cefnogwyr y frenhiniaeth yn yr ardal yn arfer cyfarfod yng nghyfnod y Rhyfel Cartref.

Y stori yw eu bod yn codi gwydr i’r ‘Black Boy’, yr enw a gafodd y Brenin Siarl II gan ei fam adeg ei eni – oherwydd bod ei bryd mor dywyll.

Rhag i ysbiwyr Cromwel eu clywed roedd cefnogwyr y brenin alltud yn cyfeirio ato wrth yr enw hwnnw.

Mae nifer o dafarndai eraill yng ngwledydd Prydain sydd â’r un enw hefyd yn cyfeirio at y ddamcaniaeth yma fel tarddiad yr enw.

Roedd Siarl II ei hun yn gysylltiedig â chaethiwed pobol o Affrica – yn 1682, mi dalodd hanner can punt am fachgen du, ac roedd yn un o brif gyfranddalwyr y Royal African Company.

Rhwng 1662 a 1731, cludodd y cwmni tua 212,000 o gaethweision ar draws y byd, a bu farw 44,000 ohonyn nhw ar y ffordd.

Bwi du yn y môr

Cerflun o fwi du tu allan i’r dafarn

Yn ogystal â nifer o luniau o fechgyn du sydd i’w gweld y tu allan i’r dafarn yng Nghaernarfon mae yna hefyd lun o fwi du (black buoy) ar arwyddion y dafarn a cherflun o fwi du gerllaw.

Y stori yw fod bwi du yn yr harbwr yn nyddiau cynnar yr adeilad er mwyn sicrhau bod llongau yn mordwyo i’r harbwr yn ddiogel.

Beth yw eich barn chi am enw’r dafarn? Crëwch gyfri (y botwm Ymuno ar dop y sgrîn) a rhowch wybod yn y sylwadau ar waelod y dudalen.

 

Cefndir – hanes y dafarn

Fe gafodd y dafarn ei chodi tua 1522 ac mae cyfeiriad at yr enw ‘Black Boy’ yng nghofnodion trwydded yr Ale House yn 1764.

Roedd dwy dafarn yno ar un adeg: ‘The Black Boy’ a ‘The Four Shillings and Six Pence’, sy’n rhoi enw Stryd Pedwar a Chwech i’r ffordd gul lle mae un dafarn ‘Y Bachgen Du’. Roedd enwau gwahanol arnyn nhw hefyd – y ‘King’s Arms’ a’r ‘Fleur de Lys’.

Yng nghyfrifiad 1794 mae Stryd Pedwar a Chwech hefyd yn cael ei hadnabod fel ‘Street y Black Boy’.

Cefndir – cael gwared ar gofgolofnau

Cafodd cofgolofn o Edward Colston, masnachwr oedd yn manteisio ar gaethweision, ym Mryste ei ddymchwel yn ystod protest Black Lives Matter y penwythnos diwethaf.

Ers hynny mae galw wedi bod ar awdurdodau lleol i dynnu cofgolofnau ac i ail enwi sefydliadau a strydoedd sy’n dathlu ffigurau blaenllaw fu’n ymwneud â’r diwydiant masnachu caethweision.

Yn eu plith mae cofgolofnau i Syr Thomas Picton a H.M. Stanley yng Nghymru, ac mae dros 2,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw ar gyngor dinas Exeter i ailenwi stryd ‘Black Boy Road’ yn y ddinas.

Ymunwch â’r sgwrs

Megan Tudur
Megan Tudur

Roedd ffrind croenddu o America yma llynedd ac nid oeddwn am fynd a hi i ganol caricatures dynion duon y Black Boy. Anghynes. Dylid tynnu rheiny a sticio at y bwi du.