Busnes Bonta Deli yn tyfu a thyfu… a’r siop yn symud i Stryd Twll yn y Wal

Y silffoedd yn wag ar ddiwedd y diwrnod cyntaf –  diolch i ysbryd cymunedol Caernarfon 

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae siop a chaffi Bonta Deli ar Stryd y Palas wedi ehangu, drwy agor safle newydd yn hen adeilad ‘Iechyd Da’ ar Stryd Twll yn y Wal.

Er bod y Bonta Deli gwreiddiol yn parhau ar agor – y bwriad yw trosglwyddo’r busnes i’r safle newydd a chau’r hen gaffi ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Tan hynny, mi fydd y perchennog prysur, Deborah Sagar, a’i thîm yn rhedeg y ddau leoliad.

“Mi fydd rhaid i mi brynu pâr o rollerblades neu adeiladu twnnel!” meddai wrth gyfeirio at yr her o deithio o’r caffi presennol i’r safle newydd.

“Awyddus iawn i fuddsoddi yn y dref”

Er ei bod yn gyndyn o adael Stryd y Palas, sydd ag “elfen gryf o ysbryd cymunedol,” dywedodd Deborah Sagar nad oedd ganddi ddewis ond symud i adeilad mwy.

“Mae Bonta Deli wedi tyfu ac roeddwn i angen rhywfaint o sicrwydd ar gyfer y busnes,” eglura. “Rydym ni wedi tyfu’n rhy fawr yn y safle yma – mae’r lle yn llawn dop!”

Dywedodd hefyd ei bod yn awyddus iawn i fuddsoddi yn y dref, gan ei bod yn credu yng Nghaernarfon a’r bobl sy’n byw yma.

“Dw i’n cael fy synnu’n gyson gan y gefnogaeth gan bobl leol – maen nhw’n bobl mor ffyddlon ac mor gefnogol.”

“Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel!”

Ar ddiwedd diwrnod cyntaf prysur a blinedig yn y siop newydd, sy’n gwerthu amrywiaeth o gwrw crefft lleol, dywedodd Deborah Sagar:

“Roeddwn i’n disgwyl agoriad eithaf low-key, yn enwedig gan ei bod hi’n ddiwrnod digon gwlyb yng Nghaernarfon – ond mai hi wedi bod yn ofnadwy o brysur.

“Fe wnaethon ni werthu allan o gryn dipyn o bethau a gorfod cael mwy o stoc yn barod ar gyfer yfory – mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel!”

Eglurodd mai un fantais o werthu cynnyrch lleol yw bod modd i’r cynhyrchwyr alw draw gyda mwy o stoc yn syth!

“Mi fydd Caernarfon yr un mor fyrlymus ac anhygoel ac erioed”

Wedi blwyddyn digon dyrys i fusnesau bach a mawr y byd, dywedodd perchennog Bonta Deli bod ei pharodrwydd i addasu wedi bod yn allweddol, ac wedi galluogi iddi barhau gyda’r cynlluniau i ehangu’r busnes.

“Roedd Bonta’n ddwy oed ar ddiwrnod cyntaf y clo mawr, a dylen ni fod wedi bod yn dathlu ein pen-blwydd yn hytrach na chau ein drysau.

“Ond be sy’n dda am be’r ydan ni wedi’i wneud ydi ein bod ni wedi addasu’n gyflym – mae pawb wedi – ac ymateb i’r hyn mae pobl eisiau.

“I mi, mae Caernarfon wedi bod ar ei fyny ers blynyddoedd. Ac er bod hyn [y Pla Corona] yn set back, a dw i’n cydnabod bod hyn ddim am ddiflannu unrhyw bryd yn fuan – mi fydd Caernarfon yr un mor fyrlymus ac anhygoel ag erioed.”