C O F I 19

Cyfle i wrando ar albwm newydd gan fandiau lleol.

gan Llyr Jones

Ma’ COFI 19 yma o’r diwadd i’ch cysuro a’ch cyffroi!

Dyma gasgliad o ganeuon wedi’w gwneud yn ystod y lockdown gan amryw o fandia’ ag artistiaid gogleddol wedi ei drefnu gan Pasta Hull.

Mae’r albwm yn cynnwys 22 o ganeuon, gan 14 band o’r ardal.

Mae COFI 19 allan yn rhad ac am ddim ar ‘bandcamp’ heddiw, ac allan ar ‘Spotify’ a ballu yn fuan.

Gwrandewch ar yr album newydd ar y linc yma

Dyma gerdd gan Brochwel Ysgithrog o Pasta Hull i ehangu:

O Pys Melyn a Meilyr a Bleddyn, i Phil Bran a’r Twmffat a’r Tacla.
Jac Da Trippa a’r 3 Hwr Doetha’, gyda’r Crinc a’r Papur Wal poetha’.
O bapura Rhys Trimble, i fynyddoedd Cefn Du,
Bydd rhyddhad swyddogol y Hosepipe Ban yn gry’.
So wotchwch achan am yr album hon
Sy’n cynnwys yr uchod, a Kim Hon; Barry John.