Carcharu dyn lleol am dorri ei Orchymyn Ymddygiad Troseddol

Dim ond ychydig ddyddiau yn ôl y cafodd ei ryddhau o’r carchar

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae dyn o Gaernarfon wedi cael ei garcharu am dorri ei Orchymyn Ymddygiad Troseddol.

Roedd Steven Parry gerbron Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher (Medi 9) a chafodd ei ddedfrydu i 60 diwrnod yn y carchar.

“Ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar ychydig ddyddiau yn ôl, dychwelodd Mr Parry i Glan Cadnant a thorri’r Gorchymyn drwy aflonyddu trigolion ar y stad,” meddai Sarsiant Non Edwards.

“Gan weithio’n agos gyda ‘Adra’, aeth cryn dipyn o waith i mewn i sicrhau Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn ei erbyn ym mis Mehefin, sy’n ddilys am bum mlynedd.

“Yn anffodus, nid oedd yn gallu cadw at yr amodau felly cafodd ei arestio a’i roi yn ôl gerbron y llys.

“Byddwn yn parhau i erlyn y sawl sy’n ymddwyn yn ffiaidd, treisgar, sarhaus a bygythiol.

“Mae gwarchod ein cymunedau a phobol sy’n dymuno byd yn heddychlon yn dal i fod yn un o’n blaenoriaethau.”