‘Dre’ gan Caryl Bryn

Cerdd genna i, ar ôl bod am dro drw’ dre.

Caryl Bryn
gan Caryl Bryn

Dre

 

Lle aeth yr hogia’ wrth yr Eagles,

â’u rhegi’n rho lawr stryd llyn,

fu’n troi gwreichion sgyrsia’ nosweithia’ Sadwrn

yn fflama’,

a’n sdyrbio dau sy’n gafael yn ei gilydd wrth yr Alex yn dynn, dynn?

 

Lle ma’r stympwyr sigaréts yng nghefn Morgan Lloyd

fu’n smocio cyn gariadon yn lludw

a’u gadael mewn ashtray ar fwrdd yn y cefn sy’ ‘di sugo?

 

Lle ma’r merched ifanc fu’n Market Hall

â’u cwyno main

yn gwagio swnt o’u sodla’

a’n cribo cywilydd o’u gwallt traed brain

a’r ddau gariad sy’n Tŷ Glyndŵr

fu’n syllu i lygaid ei gilydd

yn fyddar i’r holl stŵr sy’n crwydro’r

strydoedd aflonydd

a’r rheiny, fel cysgodion, tu allan i Pendeitsh

fu’n mwydro, a’n sgwario – yn llwgu am ffeit

a’r boi ‘na fu’n sefyll yn nrws y Crown

yn meddwi ar sŵn gwag y gwynt

a’n gweddïo y daw’r nos yn gynt

bob prynhawn

a’r rafins gwyllt yn eu sgidia’ gora’n

ciwio’n feddw i ga’l cop-off yn Copa

cyn gweiddio ar y wasters tu allan i’r Castle

a baglu i dacsi i’w throi hi am adra?

 

Lle ma’r codwyr canu fu’n gôr yn Black Boy

fu’n sgwrio sgyrsiau o gracia’n y byrdda’

a’n meddwi ar farddoniaeth

a’n erfyn am ‘un bach’ cyn i’r drws fygwth cloi?

 

Lle mae’r rheiny fu’n llithro’n feddw at Bar Bach

fu’n grwgnach prynu peint sy’n rhy ddrud

ond methu gwrthod y gornel fach glud

a’r ysfa i ddianc, am ‘chydig, o’r byd

 

sydd rŵan yn fud,

 

am ennyd…