Mae Capel Noddfa yn trefnu Clwb Celf arlein dros Zoom. Cyfle i blant, o unrhyw ardal yng Nghaernarfon, i ymuno am ddim.
Ni fydd angen unrhyw offer, dim ond y gallu i ymuno ar Zoom – byddwn yn darparu’r holl offer crefft.
Mi fydd y gwaith crefft yn addas i blant Ysgol Cynradd, ond yn agored i blant Ysgol Uwchradd os dymunir ymuno.
Mae’n rhaid cofrestru ar gyfer y digwyddiad, cyn derbyn y pecyn crefftau. Llefydd cyfyngedig.
Rhaid cofrestru erbyn 25/11/20 – anfonwch neges i Facebook Capel Noddfa Caernarfon.
Ariannwyd gan Gyngor Tref Caernarfon a Capel Noddfa.