Dim Cwis Dafarn? Dim Problem.

Byddwch yn greadigol yn y cyfnod od ‘ma.

Gethin Griffiths
gan Gethin Griffiths

Does ‘na neb yn siŵr iawn beth sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae’n teimlo fel rhyw hunllef, neu rhyw fydysawd ar wahân i’n bydysawd ni. Mae popeth wedi newid, yn enwedig i bobl oedd yn dibynnu ar yr adegau hynny lle mae pobl yn dod ynghyd, fel cerddorion, digrifwyr, a nifer o bobl eraill sydd yn hunan gyflogedig.

Dim ond ychydig o ddyddiau y mae hi wedi ei gymryd i bobl ddechrau bod yn greadigol, fodd bynnag, ac erbyn hyn, mae’n amhosib agor unrhyw gyfrwng cymdeithasol heb weld fideos o bobl yn canu neu’n rhannu eu talentau yn absenoldeb eu gigs. Go brin y cafodd y cyfryngau cymdeithasol eu defnyddio i’r graddau hyn o’r blaen.

Ond beth am yr adegau hynny sydd yn ein heffeithio ni bob dydd? Wrth gwrs, mi’r ydym ni gyd yn mynd i golli’r gig ar y nos Wener, neu’r gêm bêl-droed ar y dydd Sadwrn, ond beth am yr adegau bychain hynny rhwng ychydig ffrindiau? Y baned neu’r peint? Dyma’r pethau bach sydd yn rhoi cydbwysedd i’n bywydau, fel ennyd i anghofio (neu rannu) pryderon. Efallai mai dyma yw uchafbwynt y rhan fwyaf o’ch wythnosau.

Wel, na phoener. Efallai nad ydi codi’r ffôn yn rhoi’r un wefr i chi ag ymweld â’ch ffrindiau wyneb yn wyneb, ond mi all brofi’n ddefnyddiol iawn dros yr wythnosau nesaf ‘ma. A dweud y gwir, does dim llawer o bethau sydd yn rhaid eu torri allan o’ch bywydau yn gyfan gwbl. Mi’r oeddwn i’n poeni nad oeddwn i am gael gwneud un o fy hoff bethau yn y byd, sef mynd i’r dafarn ar nos Iau ar gyfer y cwis. Felly, be wnaethon ni? Yn amlwg – dechrau grŵp ar Facebook. O fan ‘no, mi ‘naethon ni benderfynu ein bod ni’n mynd i gynnal rhyw fath o gwis rhithiol yr un amser a’r cwis go iawn – 9 o’r gloch, bob nos Iau.

Fi oedd y cwisfeistr cyntaf, er y bydd eraill yn cymryd y baich yn yr wythnosau sydd i ddod. Mi benderfynais i ddilyn y camau isod, ond nid dyma’r unig ffordd i wneud hyn, wrth gwrs:

1. Annog pawb i ymuno gyda thim o ddau neu dri, ac yna i gysylltu gydag aelodau’r timau unigol drwy pa bynnag drefniant sydd yn eu siwtio nhw (WhatsApp, FaceTime…).
2. Darlledu’n fyw ar y grŵp er mwyn gofyn y cwestiynau.
3. Postio rownd lluniau ar y grŵp, gan adael toriad iddyn nhw feddwl am yr atebion.
4. Annog y timau i yrru eu hatebion dros ebost i mi, ac yna gyrru’r ffurflenni atebion yn ôl i dimau gwahanol er mwyn ‘rhannu’r papurau allan’.
5. Darlledu unwaith eto er mwyn rhoi’r atebion.

 

‘Dw i wedi gweld nifer o bobl yn gwneud cwis dros y penwythnos, a nifer ohonyn nhw’n defnyddio trefniadau llawer symlach na hyn. Beth bynnag sydd yn gweithio i chi! Ond, os ydych chi’n hoff o’ch cwis dafarn ac eisiau cadw’r profiad mor debyg â phosib i’r profiad gwreiddiol, efallai bod y camau uchod yn ddefnyddiol i chi.

Mi fydd yn rhaid i ni gyd ddod i arfer gyda’r drefn od hon o fyw am o leiaf ychydig wythnosau – ond, fel yr ydym ni wedi ei brofi’n barod, mi’r ydym ni’n fwy na pharod i allu gwneud hynny drwy fod yn greadigol. Peidiwch â mynd allan, mae’r posibiliadau i gyd o fewn eich pedair wal.