Dyrchafiad i Adran 1af – Clwb Hoci Caernarfon

Ar frig adran 2 Cynghrair Hoci Merched Gogledd Cymru ond Byw’n Iach yn oedi ail ddechrau

Clwb Hoci Merched Caernarfon
crys a tlws

Mi allwn gyhoeddi fod tîm merched hoci Caernarfon yn bencampwyr yr ail adran tymor 2019-2020! ?

Er nad oedd modd gorffen y gynghrair yn gyflawn, perfformiodd y genod yn wych gan ennill 10 o’r 11 gêm gan eu gosod yn ail yn yr adran. Ond, gyda Chlwb Hoci Ardudwy ac Arfon yn dod i ben yn ddiweddar, a’u timau cyntaf ag ail bellach allan o’r gynghrair, mae genod dre yn cymryd eu lle gan ddyrchafu i’r adran gyntaf ar gyfer tymor 2020/21.

Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y clwb hoci ar Zoom ym mis Awst. Roedd hi’n lyfli gweld pawb a braf oedd gweld gymaint o’r criw ifanc wedi logio mewn hefyd.

Rhoddwyd gwobrau allan yn y cyfarfod a bydd y dair yn derbyn eu tlysau gwydr yn fuan:

Chwaraewraig y chwaraewyr- Catrin Owen
Chwaraewraig y capten – Llinos Williams

Chwaraewraig ifanc y flwyddyn – Ela P Jones

Ail ddechrau

Mae’r clwb yn brysur yn cydweithio o dan ganllawiau Hoci Cymru, ‘Cam 3: Cyswll Wedi Addasu’. Er yn gobeithio ail gychwyn hyfforddi ar nos Fercher, Medi 9fed mae oedi gan Byw’n Iach i allu defnyddio’r cae bob tywydd yn Llanrug, a oedd mewn cyflwr difrifol ddechrau’r mis.

Rydym yn edrych ymlaen i ail ddechrau’r ymarferion a’n gobeithio dathlu llwyddiant y merched yng Ngwesty’r Padarn, Llanberis yn fuan! Cadwch olwg ar ein tudalen Facebook a Twitter am wybodaeth: Clwb Hoci Merched Caernarfon / @HociCaernarfon