“Mae hi’n fraint cael bod yn rhan o fudiad sy’n gweithio i herio’r stigma iechyd meddwl sydd wedi bodoli o fewn ein cymdeithas ers canrifoedd.”

Sgwrs gydag Arddun Rhiannon, aelod o dîm rheoli gwefan Meddwl.org

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ers 2016, mae criw o wirfoddolwyr wedi gweithio i greu gwefan Meddwl.org, sy’n darparu gwybodaeth am amryw o faterion iechyd meddwl, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r wefan yn blatfform cynhwysol sy’n galluogi pobl i rannu eu profiadau, codi ymwybyddiaeth a lleihau’r stigma.

Yr wythnos hon, daw carreg filltir bwysig i’r sefydliad, wrth iddynt gael eu cydnabod fel elusen gofrestredig – y cyntaf o’r fath yng Nghymru. 

Mewn sgwrs gyda Caernrarfon360, mae aelod o dîm rheoli’r wefan, Arddun Rhiannon o Dinas, ger Caernarfon, wedi bod yn trafod ei phrofiadau.

“Hanfodol bwysig”

“Dwi ‘di bod yn aelod o dîm rheoli Meddwl.org ers dros flwyddyn a hanner bellach,” eglurai Arddun.

“Roeddwn i wedi bod yn gyfrannwr i’r wefan ers ei sefydlu nôl yn 2016 ac yn blogio bob hyn a hyn am fy mhrofiadau iechyd meddwl.

“Gydag amser fe dyfodd fy rhan gyda’r wefan, a thrwy hynny bues i yn ddigon ffodus o gael gwahoddiad i fod yn aelod o’r tîm rheoli.

Dywedodd ei bod hi’n “hanfodol bwysig” sicrhau bod yna ddarpariaeth iechyd meddwl digonol, drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Tydi darllen, clywed na siarad am fater mor sensitif fel iechyd meddwl ddim yr un peth yn eich ail iaith,” meddai.

Arddun Rhiannon

“Tydi rhannu a bod yn agored ddim yn hawdd”

Er mai darparu gwybodaeth oedd y bwriad gwreiddiol, daeth yn amlwg yn fuan iawn i’r tîm rheoli fod pobl yn awyddus i rannu eu profiadau hefyd.

“Tydi rhannu bod yn agored ddim yn hawdd efo dy deulu a dy ffrindiau,” meddai, “heb sôn am ysgrifennu’n gyhoeddus ar gyfer sylw’r genedl gyfan!

“Nes i yn bersonol gychwyn blog iechyd meddwl ychydig o fisoedd cyn i Meddwl.org gael ei sefydlu, a dwi’n cofio pa mor anodd oedd pwyso’r botwm ‘cyhoeddi’… heb unrhyw syniad o gwbl sut fyddai pobl yn ymateb.

“Dwi’m yn gwybod be fyswn i’n neud heb Meddwl.org! Mae o ‘di cyfoethogi ‘mywyd i gymaint.

“Ma’n hyder i wedi cynyddu lot, dwi ‘di cyfarfod ffrindiau anhygoel, siarad efo pobl dwi’n eu hedmygu gymaint â chreu cysylltiadau na fyswn i wedi cael gwneud heb fod yn rhan o’r wefan.

“Mae hi’n fraint cael bod yn rhan o fudiad sy’n gweithio i herio’r stigma iechyd meddwl sydd wedi bodoli o fewn ein cymdeithas ers canrifoedd.”

Mae modd darllen mwy fan hyn.