Fron Goch yn ail agor i gwsmeriaid

Busnes teuluol yn croesawu newidiadau i ganllawiau Llywodraeth Cymru

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llun Fron Goch

Mae busnes teuluol sy’n cyflogi 100 o weithwyr wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru fod canolfannau garddio yn cael ail agor os ydyn nhw yn cadw o fewn rheolau pellter COVID-19.

Cyn gorfod cau drysau’r ganolfan oherwydd y coronafeirws, cafodd Canolfan Arddio Fron Goch wybod eu bod wedi ennill gwobr y Ganolfan Arddio Orau yn y Deyrnas Unedig yn 2019.

Dywedodd Justin Williams, Rheolwr-Gyfarwyddwr Canolfan Arddio a Bwyty Fron Goch: “Rydan ni’n edrych ymlaen at weld ein cwsmeriaid a chael y tîm i gyd yn ôl i mewn a gweithio o fewn y ffordd newydd.”

Darllenwch fwy am ymdrechion y ganolfan arddio i addasu yng nghylchgrawn golwg neu ar golwg+