Lansio ardal i deuluoedd yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon

Y bwriad ydi sicrhau ei bod yn ŵyl i bawb o bob oed

Ar Goedd
gan Ar Goedd
Screenshot-2024-04-29-at-11.32.14

Gwaith celf gan Iestyn Tyne

Ymhlith rhai o ddatblygiadau cyffrous yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon eleni mae Pentre Bwyd Môr ac ardal deuluol ‘Hwyl Dros yr Aber’.

Bwriad yr Ŵyl Fwyd drwy lansio ardal ‘Hwyl Dros yr Aber’ ydi sicrhau bod Gŵyl Fwyd Caernarfon yn ŵyl i’r teulu cyfan, ac ar 11 Mai bydd Parc Coed Helen yn cael ei neilltuo’n gyfan gwbl i ddifyru teuluoedd, plant a phobl ifanc. Gobeithiwn y bydd yn cynnig gofod mymryn yn dawelach a llai prysur er mwyn dianc o fwrlwm yr Ŵyl ei hun.

Er mwyn dod â’r weledigaeth hon yn fyw mae Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi cydweithio ag artist lleol, Iestyn Tyne, sydd wedi creu darn hyfryd o gelf sy’n cyfleu amrywiaeth yr arlwy a fydd ar gael yn ‘Hwyl Dros yr Aber.’

Yn ôl Lois, sy’n byw yng Nghaernarfon ac sy’n fam i Brengain a Llewyn: “Er cymaint ydan ni’n mwynhau’r Ŵyl Fwyd bob blwyddyn, mae’n bach o waith efo plant: trio gwthio pram drwy’r holl filoedd o bobl sy’n dod yno, a trio cadw’r plant yn hapus hefyd. Mi ydan ni’n edrych ymlaen i dreulio ein hamser yn Dros yr Aber leni, a bydd stondinau bwyd a diod felly fydd neb yn colli allan!”

Ymhlith y sefydliadau sy’n cynnig gweithgareddau yn yr ardal mae’r Urdd, Byw’n Iach, CA Bouncing Castles, a Mulod Eryri.

Mae’r lloc anifeiliaid yn hen ffefryn yn yr Ŵyl Fwyd bellach hefyd, ac mae’r babell sy’n llawn o ryfeddodau’r byd amaeth yn ei hôl eleni, a hynny ym Mharc Coed Helen. Diolch i Goleg Glynllifon, bydd arddansgofa cneifio, cyfle i ddeud helô wrth anifeiliaid fferm, sesiwn ymbincio cŵn, hen beiriannau fferm a llawer mwy i’w weld yn yr ardal arbennig hon.

Yn ogystal â hynny bydd gweithgareddau celf a chrefft, stondinau bwyd a diod,  ac ymddangosiadau gan gymeriadau Sioe Cyw. Hoffem ddiolch i Cwmni Da am noddi llwyfan arbennig yn yr ardal hon, ac mae amserlen y llwyfan hwnnw i’w chael ar y wefan.

Felly, deuluoedd Caernarfon: os ydi bwrlwm yr Ŵyl Fwyd dwtsh yn ormod a’ch bod yn colli eich plant yn y dorf, heidiwch i Dros yr Aber am noddfa hwyliog.

Hefyd, os ydach chi yng nghanol y dref ac angen llecyn tawel i fwydo neu i newid plentyn mae Lle Arall yn agor eu drysau trwy’r dydd a bydd cyfleusterau bwydo a mynediad i doiled.

Dweud eich dweud