Galw am gynnyrch Cymraeg Na Nog yn dilyn gwahardd gwerthiant nwyddau mewn archfarchnadoedd

“Mi yda ni yn lwcus bod ganddo ni’r wefan, heb hynny mi fysai wedi bod yn stori hollol wahanol.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i wahardd pobol rhag prynu nwyddau nad ydyn nhw’n rhai hanfodol yn ystod y cyfnod clo dros dro wedi hollti barn yng Nghymru.

Yn ôl y rheolau, mae gofyn i archfarchnadoedd atal gwerthiant nwyddau fel llyfrau, cardiau a dillad yn ystod cyfyngiadau r coronafeirws.

Un cymhelliant y tu ôl i’r penderfyniad, yn ôl y prif weinidog Mark Drakeford, yw sicrhau nad yw siopau llai sydd wedi gorfod cau yn cael eu rhoi o dan anfantais.

Siop o’r fath, yw Na Nog.

“Ddim am fod yn deg os oedden nhw ar agor a ni ddim”

Yn ôl Bethan Jones, rheolwraig y siop lyfrau a chardiau poblogaidd, mae hi’n falch fod y Llywodraeth wedi gwrando ar farn perchnogion busnesau bach.

“Yn amlwg, mi yda ni wedi gorfod cau ein drysau,” meddai, “ac mae gen i’r teimlad bod o ddim am fod yn deg os oedden nhw ar agor a ni ddim.”

“Er hynny, gan fod ni’n gwerthu pethau Cymraeg, mae o rywsut yn wahanol a petai ni’n siop gwerthu llyfrau Saesneg a chardiau Saesneg, fyswn i’n teimlo lot, lot cryfach am y peth.”

“Mae’r iaith yn helpu ni, gan nad yw archfarchnadoedd yn gwerthu llawer o gynnyrch Cymraeg beth bynnag.”

 “Lwcus bod ganddo ni wefan”

Mae gwefan Na Nog wedi bod yn gymorth mawr i gynnal y busnes dros y misoedd diwethaf, yn ôl Bethan Jones.

“Oddi fatha ’dolig wythnos diwethaf – pobl yn prynu cardiau a petha’ ’dolig yn barod. Mai wedi bod yn boncyrs braidd!”

“Mi yda ni yn lwcus bod ganddo ni’r wefan, heb hynny mi fysai wedi bod yn stori hollol wahanol,” meddai.