‘Helpwch ni, i helpu chi’

Gair gan nyrs Adran Argyfwng Ysbyty Gwynedd.

Erin Bryfdir
gan Erin Bryfdir

Helo, Erin Bryfdir dwi, a dwi’n gweithio fel Staff Nyrs yn yr Adran Argyfwng, Ysbyty Gwynedd.

Swni’n hoffi dechrau gan ddiolch i’m cyd-weithwyr a’r gwasanaeth Ambiwlans am weithio mor galed nid, yn unig yn gorfforol ond hefyd yn feddyliol mewn amser erchyll ac anodd iawn yng nghanol y feirws corona ‘ma! Dwi’n hynod lwcus cael gweithio fel nyrs a chael bod yn rhan o dîm arbennig iawn.

Fel ysbyty, dani’n gweithio’n agos iawn i gefnogi ein gilydd, paratoi hyfforddiant ychwanegol, archebu mwy o ventilators, a llawer mwy i sicrhau rhoi gofal gora i’r cleifion gwael sydd yn dod mewn i’r Ysbyty.

Dani fel staff yn gwisgo PPE er mwyn edrych ar ôl ei’n hunain ac ein cleifion. Mae meddwl am beth fydd fy shifft 12 awr yn mynd i fod yn peri gofid mawr i mi, ond drw weithio fel tîm a chefnogi ein gilydd, ’da ni yn dod drwyddi.

Daw eto haul ar fryn!

Neges hefyd i bawb arall gario ’mlaen i ddilyn canllawiau a chyngor y Llywodraeth i aros adref! Llawer i glaf sydd yn sâl ac yn wael iawn a methu bod adref. Felly helpwch ni, i helpu chi!

1 sylw

Iona Owen
Iona Owen

Diolchgar i’r Nhs am ei hollt tyfder yn taclo hwn ac cadwch yn gru fydd o drosodd cyn bo hir dwi’n gweddio llawer

Mae’r sylwadau wedi cau.