Holi AS Arfon ar gynffon blwyddyn “gythryblus ofnadwy”

Dywedodd byddai “llanast” Brexit yng Nghaergybi yn cael “effaith mawr” ar economi Gwynedd.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Hywel Williams

Ar ddiwedd blwyddyn dra wahanol, mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, wedi bod yn edrych yn ôl ar y cyfnod gan rannu ei obeithion ar gyfer y flwyddyn newydd.

Er ei fod yn cydnabod iddi fod yn flwyddyn “gythryblus” rhwng y pandemig ac ansicrwydd Brexit, dywedodd bod yr argyfwng wedi bod yn drobwynt ar gyfer sawl newid hefyd.

Ac er bod y brechlyn yn rhoi ychydig o oleuni ar ddiwedd twnnel du, rhybuddiodd mai dyma yw “dechrau’r diwedd – dim y diwedd.”

Blwyddyn “gythryblus ofnadwy”

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn gythryblus ofnadwy… un o’r gwaethaf dw i wedi ei gweld dw i’n meddwl, rhwng Covid… ac yr ansicrwydd hefo Brexit,” meddai Hywel Williams.

“Mae hi wedi bod yn ffyrnig o wyllt arna i ac ar y staff  – fel pawb arall.”

Wrth drafod ei waith a gwaith yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian, dywedodd:

“Rydyn ni yn bobl leol,” meddai, “dw i a Siân yn byw yn yr etholaeth, yn aelodau o’r gymuned ac yn ymwybodol o’r pwysau mae pobl yn eu hwynebu gan ein bod ni’n wynebu nhw ein hunain.

“Heb fod yn rhy sych dduwiol – mae [bod yn wleidydd yn] gyfle i fod yn wasanaeth i bobl a dw i’n croesawu hynny – dyna pam dw i mewn gwleidyddiaeth.”

Sylweddoli gwerth masnachwyr lleol

“Does yna ddim lot i’w ddweud sy’n bositif i beth sydd wedi digwydd yn ddiweddar,” meddai Hywel Williams, “ond un peth ydi, mae pobl wedi dod i sylweddoli be ydi gwerth masnachwyr lleol…

“Mae rhywun yn edrych ar strydoedd sydd yn llwyddo, er enghraifft Stryd y Palas yng Nghaernarfon, sydd yn llawn busnesau lleol gan bobl leol.

“Dw i’n gobeithio y bydd y gefnogaeth i fusnesau lleol yn fwy effeithiol, fel eu bod nhw yn goroesi… oherwydd ar ddiwedd hyn, mi fydd rhaid i ni ail-ddechrau.”

Gwaith “rhyfeddol” cymunedau lleol

“Mae’n rhyfeddol be mae cynlluniau bach… a mawr lleol wedi ei gyflawni,” meddai Hywel Williams, wrth drafod rhai o’r rhwydweithiau cymorth cymunedol sydd wedi eu sefydlu dros y cyfnod.

“Dw i wedi bod draw i Porthi Pawb, a nifer o gynlluniau eraill, ac mae gweld y gymuned leol yn tynnu at ei gilydd mewn adeg o argyfwng, yn beth calonogol uffernol.

“Mae angen gwasanaethau sylfaenol ar raddfa fawr, pethau fel y gwasanaeth iechyd. Ond hefyd mae’n rhaid cefnogi mentrau ac ymgyrchoedd lleol hefyd.

“Mae hynny wedi hoelio sylw pobol ar beth ydi gwerth y math yma o beth – sydd yn un peth da.

“Mae yna draddodiad hir yma, wrth gwrs, o gyd-weithredu ac mae hynny wedi dod allan, efallai mwy yn yr ardaloedd yma, o’i gymharu ag ardaloedd eraill sy’n fwy dinesig ble does yna ddim gymaint o gysylltiad cymunedol.”

Effeithiau niweidiol Brexit

Rhybuddiodd Hywel Williams nad ydi’r flwyddyn ar ben eto, wrth i drafodaethau Brexit barhau.

“Dw i’n gobeithio hefo Brexit a’r busnesau sydd yn dibynnu ar fasnach ryngwladol… fydd pethau’n gliriach iddyn nhw – ar hyn o bryd mae hi’n dywyll iawn, iawn.

“Pan mae rhywun yn edrych yn benodol ar yr ardal yma, dydw i ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd hefo Caergybi.

“Mae yna fil o swyddi yna ac yn barod mae masnach o Iwerddon yn mynd yn uniongyrchol i Ffrainc erbyn hyn.

“Mae’r perig o lanast yng Nghaergybi a’r effaith wedyn ar yr economi trwy Wynedd yn un eithaf mawr.”

“Dechrau’r diwedd”

Wrth edrych at y flwyddyn newydd a’r sefyllfa o ran y corona, rhybuddiodd Hywel Williams mai “dechrau’r diwedd ydi hyn, nid y diwedd.”

“Mae yna lot o ffordd i fynd yn anffodus…. fydd hi’n dipyn o amser tan fydda ni’n ddiogel.

“Mae’r bobl wyddonol yn meddwl bod hi’n argyfyngus… a dylai rhywun fod yn ymwybodol o hynny a pheidio trin y Nadolig fel trwydded i fynd yn ôl i’r ffordd yr oedd hi.

“Ond hefyd, cymryd y cyfle dros y Dolig i ddod at ein hunain, cael hoe ac yn sicr mi fydda i yn gwerthfawrogi hynny.”