Lefel A: “Dylai cynllun pendant wedi bod mewn lle” medd un o ddisgyblion Ysgol Syr Hugh Owen

“Y Llywodraethau ’ma wedi mynd i banig”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae disgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, Lowri Elen, sydd wedi derbyn tair A a B yn ei Lefel A wedi dweud y “dylai cynllun pendant wedi bod mewn lle” ar gyfer canlyniadau Lefel A

Dywed ei bod hi methu deall “pam bod y Llywodraeth wedi mynd i banig cwpl o ddyddiau cyn y canlyniadau?”

“Mae’r bobol oedd fod i sefyll arholiadau wedi bod yn poeni am hyn ers mis Mawrth, dw i’n gweld o ychydig yn wirion bod y Llywodraethau ’ma wedi mynd i banig cwpl o ddyddiau cyn diwrnod y canlyniadau.

“Dylai cynllun pendant wedi bod mewn lle.”

Fodd bynnag, dywed Lowri Elen bod llai o fai ar Lywodraeth Cymru oherwydd “unwaith wnaeth yr Alban a Lloegr newid pethau, roedd yn rhaid i Gymru wneud hefyd.

“Rydan ni gyd yn trio am yr un prifysgolion a’r un swyddi felly byddai wedi bod yn annheg cosbi disgyblion yng Nghymru.”

Bydd Lowri Elen nawr yn mynd i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac eisoes wedi ennill ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a Gwobr Teilyngdod Aberystwyth.

“Ni ddylai’r arholiadau fod wedi cael eu diddymu” – Gareth Cowell

Mae cyn bennaeth Hanes a Chweched Dosbarth Ysgol Syr Hugh Owen wedi dweud wrth golwg360 “na ddylai’r arholiadau fod wedi cael eu diddymu.”

Mae gan Gareth Cowell ddegawdau o brofiad yn y byd addysg ac roedd yn athro poblogaidd yn Ysgol Syr Hugh Owen.

“Byddai’n well pe bai nhw wedi cau gweddill yr ysgol a chynnal arholiadau o dan amgylchiadau covid,” meddai Gareth Cowell.

“Gallant wedi gwneud defnydd o’r ysgol i gyd gan fod yr ysgol yn wag.”

Mae Gareth Cowell hefyd yn teimlo mai ar Weinidog Addysg yr Alban, John Swinney, mai’r bai am yr helynt yn y diwrnodau’n arwain at ddiwrnod y canlyniadau.

“Dw i’n meddwl bod John Swinney wedi cynhyrfu yn yr Alban ac ofn y backlash y gallai wedi wynebu.

“Ac, wrth gwrs, wedyn roedd yn rhaid i Gavin Williamson a Kirsty Williams ymateb yn San Steffan a Chaerdydd.

“O ran Cymru, dw i’n teimlo bod Kirsty Williams wedi gwneud rhywbeth teg, ac a dweud y gwir wyddwn i ddim beth arall y gallai fod wedi ei wneud.”