Hwn ydy’r llais, tybad? gan Caryl Bryn sydd wedi cipio’r categori barddoniaeth eleni yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.
Dyma gyfrol gyntaf Caryl Bryn sydd wedi i chyhoeddi dan faner Cyhoeddiadau’r Stamp yn 2019.
Daw Caryl Bryn yn wreiddiol o Borth Amlwch yn Môn, ond y mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon.
Mae’n gyfrannydd cyson i gylchgronnau Y Stamp, Barddas a Barn, ac yn mwynhau cymdeithasu a threulio amser gyda’i chath, Grês Elin.
Bu iddi ymgymryd â Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru yn 2018 a derbyn Ysgoloriaeth Gerallt yn 2019. Yn yr un flwyddyn, daeth yn drydydd am Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a’r Fro.
Mae hefyd yn derbyn gwobr o £1,000 a thlws wedi ei ddylunio a’i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.
Mewn neges ar ei chyfri Twitter diolchodd Caryl Bryn i bawb am eu negeseuon:
Diolch o waelod calon i bawb am eu negeseuon yn fy llongyfarch ar ennill gwobr categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2020.
Mae fy niolch mwya’ i @cylchgrawn_y_stamp (yn arbennig i Iestyn a Grug!
… a’r diolch mwya’ i Dad! This one’s for you, kid!#Llyf20 pic.twitter.com/8mAfxwSn0S
— CB (@CarylBryn) July 31, 2020
Mae Caryl Bryn hefyd yn gymwys am wobr Barn y Bobl Golwg360 a phrif enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020, a gaiff eu cyhoeddi ar ddydd Sadwrn, Awst 1, rhwng 12.30 ac un y p’nawn ar Radio Cymru.
Gwobrau yn “hanfodol bwysig”
Y corff Llenyddiaeth Cymru sy’n trefnu gwobrau Llyfr y Flwyddyn, ac maen nhw yn “hanfodol bwysig” meddai’r Prif Weithredwr, Lleucu Siencyn.
“Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad hanfodol bwysig yng nghalendr diwylliannol Cymru,” meddai Lleucu Siencyn.
“Rydym yn falch iawn i ddathlu llwyddiannau llenyddol ein hawduron hynod dalentog, ac mae’r Wobr hon yn fodd o wneud hyn yn flynyddol.”
Darllenwch ragor am lwyddiant Caryl Bryn ac eraill yn y gystadleuaeth ar Golwg360.