Manylion Cydlynwyr Caernarfon

Cofis Curo Corona, grŵp Facebook sy’n cefnogi pobol Caernarfon yn ystod Covid-19

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae bellach bron i 900 o bobol yn aelodau o grŵp Cofis Curo Corona ar Facebook.

Mae’r grŵp yn gyfle i bobol gysylltu â’i gilydd a chefnogi ei gilydd yng Nghaernarfon yn ystod lledaeniad Covid-19.

Fel rhan o’r cynllun mae 4 pwynt cyswllt wedi ei greu ar gyfer 4 ardal wahanol yn y dref.

Mae’r cydlynwyr yn arwain tîm o wirfoddolwyr sydd yn barod i helpu y bobol fwyaf bregus.

Manylion cydlynwyr Caernarfon:

Cadnant – Dawn Lynne Jones, 07901945757, dlj740@aol.com

Menai – Dewi Wyn Jones, 07580334554, dewijones97@live.com

Peblig – Jason Wayne Parry, 07900594279, jasonelo@outlook.com

Seiont – Cai Larsen a Dic Thomas, 07795230072, cailarsenblgmenai@gmail.com