Mae hyfforddwr Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon, Sean Eardley, wedi gadael y clwb er mwyn symud yn ôl i’w dref enedigol a hyfforddi Clwb Pêl-droed Llandudno.
Ymunodd Sean Eardley â’r cofis yn 2017 gan arwain y clwb i’r haen uchaf am y tro cyntaf mewn deng mlynedd.
Yn sgil y coronafeirws daeth y tymor pêl-droed yng Nghymru i ben yn gynnar. Gorffennodd Caernarfon yn bumed yn y gynghrair gan fethu ar y cyfle i chwarae yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf.
Eglurodd Cadeirydd y clwb Paul Evans wrth golwg360 fis diwethaf, byddai chwarae yn Ewrop wedi bod werth tua £180,000 i’r Cofis, ac wedi creu pennod newydd yn hanes y clwb.
“Diolch am bopeth Cofi Army!”
Mewn llythyr agored at gefnogwyr Caernarfon mae Sean Eardley wedi egluro ei benderfyniad ac wedi diolch i’r Cofi Army.
“Mae’n drist iawn bod fy nghyfnod gyda Chaernarfon yn dod i ben.
“Mae wedi bod yn gwpl o ddiwrnodau emosiynol iawn, ac yn ddewis anodd iawn i mi ei wneud, ond sylweddolais yn y pen draw mai dyma oedd y dewis iawn i mi a fy nheulu.
“Mae fy nyled i Dref Caernarfon yn fawr, chi roddodd y cyfle cyntaf i mi reoli.
“Mae’r chwaraewyr wedi bod yn anhygoel, ac roedd sawl galwad ffôn anodd iawn i’w gwneud neithiwr, ond dwi’n gobeithio eu bod nhw i gyd wedi mwynhau chwarae i mi ac yn falch o wisgo melyn a’r gwyrdd.
“Mae fy rheolwyr wedi bod fel teulu i mi ac mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â nhw, a hoffwn ddymuno’r gorau iddyn nhw yn y dyfodol.
“Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi, y cefnogwyr gorau sydd i gael, efallai y bydd dryswch a siom gan rai am fy mhenderfyniad, ond coeliwch fi mae wedi bod yn bleser ac yn fraint arwain eich tîm wythnos ar ôl wythnos.
“Mae nifer ohonoch yn ffrindiau mawr i mi bellach a dwi’n gobeithio bydd hynny’n parhau, ynghyd â’r parch a’r urddas mwyaf sydd gen i tuag atoch chi i gyd.
“Diolch am bopeth Cofi Army!”
“Cyfraniad amhrisiadwy”
Mae’r Cadeirydd, Paul Evans, wedi canmol cyfraniad Sean Eardley i’r clwb yn ystod ei amser gyda’r Cofis:
“Mae Sean wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i Glwb Pêl-droed Caernarfon ers iddo ymuno â ni. Cyrhaeddodd yr Ofal gyda gwên ar ei wyneb, ac mae wedi gwenu trwy gydol ei amser gyda ni!
“Arweiniodd ni i ddyrchafiad a gorffen yn chwech uchaf Uwch Gynghrair Cymru ddwywaith yn olynol, a dwi’n siŵr byddai wedi mynd â ni i Ewrop ar ddiwedd yr ymgyrch hon pe bai pethau wedi bod yn wahanol.
“Mae Sean wedi bod yn bleser pur i weithio gyda, ac mae wedi gwneud gwaith anhygoel.
“Mae ein cynnydd o dan ei arweinyddiaeth wedi bod yn amlwg i bawb ac mae’n gadael sylfaen wych ar gyfer y dyfodol.
“Mae Llandudno yn glwb da, ac er bod y tymhorau diwethaf wedi bod yn heriol iddyn nhw dwi’n ffyddiog gyda Sean wrth y llyw mae ganddyn nhw siawns o droi pethau o gwmpas yno.
“Byddwn i gyd yn colli ei bersonoliaeth a’i wên ac rydym ni gyd yn dymuno’n dda iddo ef, Lisa a’r holl deulu ar gyfer y dyfodol. ”
Ychwanegodd Paul Evans y bydd Huw Griffiths yn parhau i fod yn rheolwr a bydd staff ystafell gefn yn cael eu cadarnhau yn fuan.
Ymateb ar gyfryngau cymdeithasol:
Well, was not expecting that! Bydd ‘na ambell i wyneb hir o gwmpas dre ‘ma heddiw!
Pob lwc i chdi @seanyeardz3 – always been a pleasure. Absolute top guy.
— Nicky John (@NickyZJohn) June 1, 2020
Diolch yn fawr a pob lwc @seanyeardz3 ???? https://t.co/6VkY54otNr
— Kieran Roberts??????? (@KieranRober75) June 1, 2020
Diolch Sean Cofi..⚽️
— Mici Plwm (@Mici_Plwm) June 1, 2020
All the best @seanyeardz3 thanks for the memories.We have a saying in Caernarfon,”os mêts,mêts am byth” ?? ?? pic.twitter.com/RWFJNpi4V6
— Phil Williams (@philgasman) June 1, 2020