Yn dilyn y siom o fethu allan ar y cyfle i chwarae yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf mae Paul Evans, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon wedi dweud fod y clwb nawr yn edrych tua’r dyfodol.
“Dydy’r clwb erioed wedi bod i Ewrop a dyna oedd ein nod ni o ddechrau’r tymor eleni, felly rydan ni’n siomedig iawn”, meddai Paul Evans.
“Ond yr un yw ein nod. Adeg yma blwyddyn nesa dwi’n gobeithio bydd y clwb yn cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf, ond y peth pwysicaf ar hyn o bryd yw bod pawb yn saff.”
Yn dilyn penderfyniad Cymdeithas Bêl-Droed Cymru i ddirwyn y tymor i ben yn sgil y coronafeirws, Cei Connah sydd wedi ennill Uwch Gynghrair Cymru eleni.
Mae’n golygu mai Cei Connah sy’n cipio lle Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr.
Y Seintiau Newydd sy’n gorffen yn ail, a’r Bala yn drydydd a bydd y ddau dîm yn chwarae yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf, ynghyd â’r Barri sy’n cipio’r lle sydd wedi’i neilltuo ar gyfer enillwyr Cwpan Cymru.
Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon yn bumed yn y gynghrair, ac er iddyn nhw gyrraedd rownd cyn derfynol Cwpan Cymru cafodd y gemau hynny eu gohirio oherwydd y pandemig.
Clec ariannol
Eglurodd Paul Evans bod Clwb Pêl-droed Caernarfon yn siomedig o golli allan ar y pedwerydd safle.
Mi fyddai chwarae yn Ewrop wedi bod werth tua £180,000 i’r Cofis, ac wedi creu pennod newydd yn hanes y clwb.
“Mae gan y clwb record dda yn erbyn y Barri, ac er mae’r penderfyniad iawn oedd hi i ddirwyn y tymor i ben yn sgil y coronafeirws, dw i’n siomedig iawn – roedd cyfle go-iawn gennym i fynd i Ewrop eleni.
“Byddai’r arian fyddai’r clwb wedi ei dderbyn am chwarae yn Ewrop wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ni fel clwb.
“Fel clwb cymunedol ryda ni’n ddibynnol ar arian o’r giât a gan noddwyr.
“Wrth gwrs, does neb yn gwybod sut bydd hyn yn effeithio ar y tymor nesaf, ond mae’n bosib bydd hi’n anodd ar gwmnïau bach lleol i barhau i noddi ni fel clwb.
“Byddai’r arian o Ewrop wedi gwneud gwahaniaeth i ni ar y cae, ond hefyd o fewn y gymdeithas.”
Diolch i’r Cofi Army
Pwysleisiodd y cadeirydd ei fod yn cytuno gyda’r dewis i orffen y tymor yn gynnar, a bod yna bethau pwysicach yn y cyfnod yma na phêl-droed.
“Byswn i’n licio diolch i’r Cofi Army am eu cefnogaeth, a galla i eu sicrhau bod dim byd wedi newid. Pan fydd pêl-droed yn dychwelyd byddwn ni’n rhoi tîm allan y gallwn ni fod yn falch o honno.
“Mae’r polisi o chwarae hogiau lleol yn parhau, ac rydan ni’n edrych ymlaen i weld talant gorau’r ardal yn dychwelyd i’r Oval.”
Ychwanegodd Paul Evans ei fod yn siomedig hefyd mai ar wefannau cymdeithasol cafodd clybiau wybod y newyddion fod y gynghrair wedi dod i ben, ond ei fod bellach wedi derbyn ymddiheuriad Cymdeithas Bêl-droed Cymru am hyn.