Stori’r Geni yn yr Awyr Agored

Darn bach o Gaernarfon yn cael ei droi’n ddinas Bethlehem.

gan Menna Machreth

Ar ddydd Sul, Rhagfyr 13eg, bydd darn bach o Gaernarfon yn cael ei droi’n ddinas Bethlehem a Chapel Caersalem, Caernarfon yn dod â stori’r geni’n fyw drwy wahanol weithgareddau ar y safle.

Bydd ‘Profiad y Nadolig’ yn ymgais i wneud rhywbeth gwahanol i wasanaeth teulu arferol y capel, a chynnig digwyddiad yn yr awyr agored dan amodau COVID-19.

Meddai Rhys Llwyd, gweinidog Capel Caersalem: ‘Bydd hwn yn brofiad i’w gofio, dathliad yn yr awyr agored – beth bynnag fydd y tywydd. Byddwch yn cyfarfod Mair yn y stabl, yn mynd ar helfa drysor yn eich sgidiau cerdded i chwilio am seren Bethlehem ac yn cynhesu o flaen coelcerth gyda’r Bugeiliaid. Hyn i gyd a chanu ambell i garol gyfarwydd.’

Bydd y cyfan yn digwydd ar ddarn o dir ar gyrion Caernarfon, a caiff yr union leoliad ei rannu â phawb fydd wedi cofrestru yn nes at yr amser.

Gwasanaeth Nadolig Amgen

Bydd angen i unrhyw un sy’n dymuno dod i gofrestru o flaen llaw, gan mai 30 o bobl ar y tro sy’n gallu bod yn rhan o’r digwyddiad: http://caersalem.com/nadolig/

Meddai Rhys Llwyd: ‘Un o uchafbwyntiau arferol calendr Caersalem yw gweld y capel yn llawn ar gyfer ein Gwasanaeth Nadolig i’r teulu a’n Gwasanaeth Carolau blynyddol.

‘Eleni, gyda chyfyngiad ar y niferoedd caiff ddod i ddigwyddiadau yn y capel mae’n rhaid i ni feddwl yn greadigol – am gyfle gwych! Felly bydd ‘Profiad y Nadolig’ yn ddigwyddiad awyr agored, a’n Gwasanaeth Carolau blynyddol yn cael ei ddarlledu ar Youtube a Facebook Nos Sul, Rhagfyr 20fed ac ar gael i’w wylio eto ar ôl y darllediad cyntaf. Dymunwn Nadolig Llawen iawn i bobl Caernarfon.”