gan
Osian Wyn Owen

Mae Alana Spencer wedi cyhoeddi y bydd yn agor ei siop ddiweddaraf yng Nghaernarfon.
Mae gan Alana o Aberystwyth siopau yn Aberystwyth, Llandudno a Chaerdydd eisoes. Bydd yn agor ei siop ddiweddaraf yn Noc Fictoria, yn hen siop Celtica.
Daeth Alana i’r brig yn rhaglen deledu’r Apprentice yn 2016, gan ennill buddsoddiad o £250,000 yn ei busnes Ridiculously Rich.
Mae Alana yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd, ac mae wedi dogfennu’r daith ar-lein.
Ar ei sianel Youtube, dywedodd Alana;
“Y tro hwn rydyn ni wedi dewis agor safle yng Nghaernarfon, rydan ni wedi syrthio mewn cariad â’r dref.
“Rydyn ni wedi bod yno i wneud rhywfaint o waith cynllunio.
“Mae’n gyffrous iawn!”