Caernarfon yn arwyddo Jakub Ojrzynski ar fenthyg

Y gôl geidwad o Wlad Pwyl yw’r chwaraewr diweddaraf i ymuno â charfan Huw Griffiths

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi arwyddo gôl geidwad Lerpwl, Jakub Ojrzynski, ar fenthyg am y tymor.

Ymunodd y gŵr deunaw oed â Lerpwl o Legia Warsaw yng Ngwlad Pwyl ddwy flynedd yn ôl a chwaraeodd y tymor diwethaf ddeg gwaith i’r tîm dan 18 oed, a saith gwaith i’r tîm dan 23.

Roedd hefyd ar y fainc ar gyfer gêm y tîm cyntaf yn erbyn Sheffield United.

Mae’r symudiad yn parhau i fod yn ddibynnol ar gliriad rhyngwladol ond mae’r clwb yn “hyderus” y bydd hyn yn cael ei glirio cyn dechrau’r tymor newydd.

Bydd Caernarfon yn herio Rhuthun oddi gartref yng Nghwpan Nathaniel MG ddydd Gwener, 6 Awst, a’r gobaith y bydd Jakub Ojrzynski ar gael i’r gêm honno.

Croeso i’r Oval Jakub!