Caernarfon v Y Drenewydd: Cyfle i’r Cofis ddial

Y clwb yn gobeithio gweld “torf fawr” ar yr Oval

Huw Bebb
gan Huw Bebb

Bydd Caernarfon yn herio’r Drenewydd ar yr Oval heno (nos Wener, 27 Awst), ac mae’r clwb yn gobeithio gweld “torf fawr ar ôl tymor caled” y llynedd.

Mae hi wedi bod yn ddechrau parchus i’r tymor gan y Cofis, gan ennill ei gêm gyntaf yn erbyn Hwlffordd 2-0, cyn colli 5-3 oddi gartref yn erbyn y Seintiau Newydd.

Ond bydd tîm Huw Griffiths yn awyddus i ddial yn erbyn y Drenewydd, ar ôl colli yn eu herbyn yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle y llynedd.

Bydd y gic gyntaf heno am 7:45yh, gyda thicedi ar gael un ai ar y giât neu drwy’r wefan Skiddle.