Codi carped a darganfod trysor

Loced teuluol yn dod i’r fei

gan Elliw Llyr
FC14EA45-3BF9-40F3-A570

Llun o’r loced

Cafodd Karen oedd yn arfer byw yn ardal Twthill, aduniad hefo loced werthfawr. Gwelodd lun ar dudalen Facebook gan adnabod ei phlant yn syth! Roedd hi yn byw yn y tŷ 14 mlynedd yn ôl, a phan oedd y carped yn cael ei godi fe gafwyd hyd i’r loced. Cafodd llun o’r trysor bach ei roi ar grŵp Twthill a cafodd y perchennog ei ffendio. Dywedodd Karen fod yn lyfli cael y loced yn ol.  Roedd wedi disgyn tu ôl i sgertin yn y llofft bach, roedd llun ei genod pan yn 5 a 2 oed tu fewn iddo. Beth sydd fwy gwerthfawr yw mai loced ei nain oedd o ac roedd yn braf meddai Karen cael dweud ei hanes yn byw yn y tŷ wrth y ferch sydd yno rŵan.