Mae Grŵp Cymunedol Twthill yn gyffrous iawn i’ch gwahodd i’n noson Nadoligaidd cyntaf erioed.
Dyma fydd digwyddiad cyntaf y grŵp, criw a ddaeth at ei gilydd dros fis yn ôl i “wella cymuned unigryw Twthill.”
Bydd dathliad ’Dolig Twthil’ yn cael ei gynnal ar y sgwâr ar y 13eg o Ragfyr am 18:00, ac mae croeso i bawb ymuno i ganu ambell garol i gyfeiliant offerynwyr lleol. Bydd mins pei a gwin cynnes ar gael.
Mae Grŵp Cymunedol Twthill yn awyddus i wneud eu rhan ar gyfer yr amgylchedd, felly mi ydan ni’n gofyn ichi ddod â’ch mygiau eich hunain i gael y gwin cynnes, a bydd diod meddal ar gael i’r plantos.
Bydd trefnwyr y digwyddiad yn annog y sawl sy’n dod i fynd yn eu blaen i dafarn y Twthill Vaults i gymdeithasu, i unrhyw un sy’n gyfforddus i wneud hynny wrth gwrs.
“Dod â’r gymuned ynghyd”
Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhyddhau yn y man, ond mae trefnwyr yr ŵyl yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn dod â’r gymuned ynghyd ar ôl nadolig o bell y llynedd.
“Mi oedd ’dolig y llynedd yn rhyfedd inni gyd.
“Mae’r nadolig i fod yn gyfnod o gwrdd â ffrindiau a chydnabod, i gymdeithasu, ac i ddod at ein gilydd.
“Prin iawn oedd y cyfle i wneud hynny llynedd, ac mi ydan ni’n gobeithio y bydd ‘leni’n wahanol.”
“Cymuned glos”
“Mae Twthill yn gymuned unigryw, yn gymuned glos, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Mae ’na draddodiad cryf o ysbryd cymunedol yma. Mae pobol yn ’nabod eu cymdogion ac yn gefn i’w gilydd.
“Bwriad Grŵp Cymunedol Twthill ydi cryfhau’r teimlad hwnnw.”