Age Cymru Gwynedd a Mon yn Bwydo’r Fro

Rhoddion Hamperi Bwyd ar gyfyfer pobol hŷn y cymuned

Ceri Angharad Hughes (ACGM)
gan Ceri Angharad Hughes (ACGM)
Apel-Bwyd-2021
265168762_562493244920153

Helpwch ni i wneud y Nadolig hwn ychydig mwy arbennig yw ein neges ni yma yn Age Cymru Gwynedd a Môn eleni. Dyma’n union beth mae Erin ac Efa wedi’i wneud. Dros y blynyddoedd mae’r ddwy wedi bod yn casglu bwyd yn archfarchnad Morrisons Caernarfon er mwyn ein galluogi i greu hamperi ar gyfer pobol hŷn ein hardaloedd ar led Gwynedd a Môn. Tydi eleni ddim gwahanol a hoffem ddiolch o galon i Erin ac Efa am eu hymroddiad i’r gwaith hyn o flwyddyn i flwyddyn a hefyd i bawb a gyfrannodd at y prosiect.

Ar Ddydd Sadwrn y 4ydd o Ragfyr cafodd bron i 20 crȃt o fwyd eu casglu; yn cynnwys cawl, bisgedi, tuniau llysiau, te a choffi. Mae eich holl garedigrwydd wedi’u galluogi i greu dros 40 o hamperi bwyd ar gyfer pobl hŷn y ddwy sir.

Felly unwaith eto rydym yn gofyn am eich help. Os rydych yn adnabod unrhyw unigolyn a bydd yn gwerthfawrogi derbyn hamper bwyd dros dymor yr ŵyl yna plîs cysylltwch a Ceri Hughes ar 01286 685 920 neu drwy e-bostio info@acgm.co.uk