Hen drimings yn hel llwch?

Mi wnawn ni eu cymryd nhw!

Grŵp Cymunedol Twthill
gan Grŵp Cymunedol Twthill
trimmings-yn-sbâr-copy

Mae Grŵp Cymunedol Twthill yn gwneud galwad agored am unrhyw addurniadau ’Dolig sbâr sy’n hel llwch yn eich atic neu gwpwrdd dan grisia.

Rydan ni’n cynnal noson garolau ar Sgwâr Twthill i groesawu’r ŵyl, ac mae’r trefnwyr yn awyddus i addurno’r coed. Gan mai criw o wirfoddolwyr ydi’r grŵp, does ’na ddim cyllideb. Oherwydd hynny, ac er mwyn gwneud ein rhan dros yr amgylchedd, rydym yn gofyn i bobol leol roi hen addurniadau mae nhw’n awyddus i gael gwared arnyn nhw yn rhodd i’r grŵp.

’Does ’na ddim rhodd yn rhy fawr nac yn rhy fach, boed yn fôbl bach neu’n llond sach o dinsel, byddai’r grŵp yn gwerthfawrogi eich cyfraniad.

 

I unrhyw un sy’n awyddus i roi Whatsappiwch y grŵp (07584868521) i drefnu inni gasglu stwff o’ch tŷ.