Galw ar y Cofi Army i roi help llaw wrth dacluso’r Oval

Mae paratoadau ar gyfer y tymor newydd wedi bod ar y gweill ers tro

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon yn gofyn i’r gymuned am help i dacluso’r Oval y penwythnos hwn.

Yn ddelfrydol, byddai trigolion lleol yn dod yno rhwng 9 a 12 o’r gloch, ond mae “unrhyw oriau fedra chi sbario” hefyd yn ddigonol.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r clwb ofyn i’r gymuned am help gyda gwaith ar yr Oval, a gyda chefnogwyr gystal â’r Cofi Army, mae’r ymateb wastad wedi bod yn gadarnhaol.

Mae paratoadau ar gyfer y tymor newydd wedi bod ar y gweill ers tro, gyda gwaith yn cael ei wneud ar y cae, y rheiliau o amgylch y cae, a’r stand sefyll.

Ac mae’r Cofis eisoes wedi chwarae sawl gêm gyfeillgar, gyda disgwyl i ragor gael eu trefnu.

Bydd tîm Huw Griffiths yn herio Hwlffordd ar yr Oval yn eu gêm gyntaf o’r tymor ar 14 Awst, a bydd y gêm honno yn fyw ar Sgorio.

305238248.gallery

Steve Evans yn ymuno â’r Cofis

Gohebydd Golwg360

Enillodd yr amddiffynnwr saith cap i Gymru rhwng 2006 a 2008