Dyma eiriau carolau ar gyfer ’Dolig Twthill heno. Nifer cyfyngedig o gopiau papur fydd ar gael, felly dewch â’ch ffôn i arbed papur:
1. O! Deuwch, ffyddloniaid
O! deuwch, ffyddloniaid, oll dan orfoleddu,
O! deuwch, O! deuwch i Fethlehem dref:
Wele, fe anwyd Brenin yr angylion:
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn
Grist o’r nef!
O! cenwch, angylion,
cenwch, gorfoleddwch;
O! cenwch, chwi holl ddinasyddion y nef:
Cenwch “Gogoniant
i Dduw yn y goruchaf!”
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn
Grist o’r nef!
O! henffych, ein Ceidwad,
henffych well it heddiw:
Gogoniant i’th enw trwy’r ddaear a’r nef:
Gair y Tragwyddol
yma’n ddyn ymddengys:
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn
Grist o’r nef!
2. Dawel Nos
Dawel nos, Sanctaidd yw’r nos;
Cwsg a gerdd waun a rhos,
Eto’n effro mae Joseff a Mair,
Faban annwyl ynghwsg yn y gwair,
Cwsg mewn gwynfyd a hedd,
Cwsg mewn gwynfyd a hedd.Dawel nos, Sanctaidd yw’r nos;
Wele fry seren dlos.
Daw’r bugeiliaid a’r doethion i’r drws,
Faban annwyl, yr wyt Ti mor dlws,
Cwsg mewn gwynfyd a hedd,
Cwsg mewn gwynfyd a hedd.Tawel nos dros y byd,
Sanctaidd nos gylch y crud;
Gwylio’n dirion yr oedd addfwyn ddau,
Faban Duw gyda’r llygaid bach cau,
Iesu T’wysog ein hedd.
Iesu T’wysog ein hedd.
3. Clywch lu’r nef
Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn:
heddwch sydd rhwng nef a llawr,
Duw a dyn sy’n un yn awr.
Dewch, bob cenedl is y rhod,
unwch â’r angylaidd glod,
bloeddiwch oll â llawen drem,
ganwyd Crist ym Methlehem:
Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn!Crist, Tad tragwyddoldeb yw,
a disgleirdeb ŵyneb Duw:
cadarn Iôr a ddaeth ei hun,
gwnaeth ei babell gyda dyn:
wele Dduwdod yn y cnawd,
dwyfol Fab i ddyn yn Frawd;
Duw yn ddyn, fy enaid, gwêl
Iesu, ein Emaniwel!
Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn!Henffych, T’wysog heddwch yw;
henffych, Haul Cyfiawnder gwiw:
bywyd ddwg, a golau ddydd,
iechyd yn ei esgyll sydd.
Rhoes i lawr ogoniant nef;
fel na threngom ganwyd ef;
ganwyd ef, O ryfedd drefn,
fel y genid ni drachefn!
Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn!
4. I Orwedd Mewn Preseb
I orwedd mewn preseb rhoed Crëwr y byd,
nid oedd ar ei gyfer na gwely na chrud;
y sêr oedd yn syllu ar dlws faban Mair
yn cysgu yn dawel ar wely o wair.A’r gwartheg yn brefu, y baban ddeffroes,
nid ofnodd, cans gwyddai na phrofai un loes.
‘Rwyf, Iesu, ‘n dy garu, O edrych i lawr
a saf wrth fy ngwely nes dyfod y wawr.Tyrd, Iesu, i’m hymyl, ac aros o hyd
i’m caru a’m gwylio tra bwyf yn y byd;
bendithia blant bychain pob gwlad a phob iaith,
a dwg ni i’th gwmni ar derfyn ein taith.