Heddlu’n apelio am wybodaeth wedi tân ac ymosodiad dros nos

Dau berson wedi rhoi cwch a char ar dân ac wedi ymosod ar griw ambiwlans

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn galw am wybodaeth ar ôl i ddau berson ifanc achosi dau dân ac ymosod ar griw ambiwlans yng Nghaernarfon dros nos.

Cafodd yr heddlu eu galw am 1.34 y bore i gais am gymorth ar Lon y Parc.

Roedd rhaid i griw ambiwlans gael gwared ar gonau oedd yn rhwystro’r ffordd, ac wrth adael y cerbyd, ymosodwyd arnynt gan ddau o bobl ifanc yn eu harddegau yn taflu cerrig.

Maent hefyd yn credu bod y ddau wedi rhoi cwch ar dan yn y doc sych wrth ymyl Castell Bach ychydig ar ôl 3 o’r gloch y bore, gan achosi cryn ddifrod.

Yn olaf, cafwyd cais am gymorth gan gydweithwyr yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am 3.37 o’r gloch y bore ym Mhenrallt Uchaf, lle’r oedd car wedi ei roi ar dân.

“Gwasanaethau brys o dan bwysau enfawr”

Mae’r Heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn a’r digwyddiad ac annog trigolion lleol i edrych ar ffilmiau camera cerbyd neu deledu cylch cyfyng a all fod o gymorth i’w hymchwiliad.

“Mae’r math hwn o drosedd yn annerbyniol ar unrhyw adeg, ond yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae’r gwasanaethau brys o dan bwysau enfawr,” meddai’r Ditectif Ringyll Arwel Hughes

“Rydym yn trin y digwyddiadau hyn o ddifrif ac rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a all ein helpu i gysylltu â ni.”

Mae modd cysylltu ar-lein drwy ddilyn y ddolen hon neu drwy ffonio CrimeStoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu cyfeirnod: Z019947.