Llion Williams: Y Bangor Lad yn cael sgwrs dan y lloer

“Yn y pen draw, unrhyw beth sydd â gwerth iddo yw be ti’n trysori yn dy enaid dy hun”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae’r actor Llion Williams wedi bod yn rhan o sawl cynhyrchiad llwyddiannus ar deledu ac ar lwyfan.

Efallai ei fod fwyaf adnabyddus am ei gymeriad eiconig, y ‘Bangor Lad’ George Huws yn y gyfres gomedi boblogaidd C’mon Midffîld.

Ym mhennod nesaf Sgwrs Dan y Lloer, bydd Elin Fflur yn sefydlu stiwdio dan y sêr yng ngardd Llion ym Mhontrug ger Caernarfon, ac yn setlo am sgwrs o flaen tanllwyth o dân i’w holi am hanes ei yrfa a’i fywyd.

Bydd Llion yn sôn am yr heriau mae e wedi gorfod wynebu yn ystod ei fywyd, gan gynnwys y cyflwr OCD (Obsessive Compulsive Dissorder), sy’n effeithio ar bob elfen o’i fywyd.

A sut mae o bellach yn cynnal gweithdai drama mewn ysgolion i rannu’r neges i ddisgyblion ei bod hi’n iawn iddyn nhw siarad am eu teimladau.

“Doedd gen i ddim byd ond fy merch fach”

Nôl yn 2012, sef y flwyddyn y collodd Llion ei frawd, y Prifardd Iwan Llwyd, daeth trasiedi arall; collodd ei dŷ a’i holl eiddo mewn tân.

“O’n i wedi colli fy mrawd yn o’ fuan cyn hynny, ac yn goron ar hynny i gyd, mi golles i’r tŷ a’r cwbl lot. Ond ail-godwyd y lle, ac mi welais drefn yn fy mhalas draw, fel dwedodd rhyw fardd rhywbryd,” meddai Llion.

“Ar y pryd, ro’n i newydd ddechrau gweithio efo’r Theatr Genedlaethol ar gynhyrchiad o Y Storm (The Tempest, Shakespeare) ac wedi cael rhan fendigedig Prospero.

“Oedd o’r penderfyniad gorau wnes i i gario ‘mlaen efo’r ddrama, achos mae Prospero yn foi sydd wedi colli bob dim, mae’n cael ei daflu ar y deyrnas bellennig yma, a’r unig beth sydd ganddo ar ôl ar yr ynys yma ydi’i ferch fach, a dyna’n union le o’n i ar y pryd yn fy mywyd.

“Doedd gen i ddim byd ond fy merch fach.

“Roedd pobl yn dweud falle bod angen cownselydd arnat ti i fynd drwy’r trauma yma ond doedd dim angen, achos roedd jest dweud geiriau Shakespeare yn rhoi popeth mewn persbectif.

“Roedd o’n dweud, yn y pen draw unrhyw beth sydd â gwerth iddo yw be ti’n trysori yn dy enaid dy hun.

“Yn y diwedd roedd o’n gofyn am ras a maddeuant a nerth a chryfder gan Dduw ac mi deimlais yn yr enaid yna bod fi’n cael y nerth yna o rywle o’dd wirioneddol angen arna i ar y pryd.

“Ac roedd hynny wedi glynu yndda i.”

Sgwrs Dan y Lloer: Llion Williams, Nos Lun, 22 Chwefror 8.25, S4C