Wnewch chi roi gwaed?

Mae’r Gwasanaeth Gwaed yn galw ar Gofis!

Osian Owen: Ar Goedd
gan Osian Owen: Ar Goedd

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn galw ar bobol Caernarfon i “ddechrau ar eu taith at achub bywyd.”

Bydd y Gwasanaeth Gwaed yn dod i Westy’r Celt ar Ffordd Bangor ar ddyddiadau yn 2021 a 2022, ac maent yn galw ar bobol Caernarfon i ddod i un o’r sesiynau i roi gwaed.

Mae gwefan y gwasanaeth yn gadael i bobol wirio a ydyn nhw’n gymwys i roi gwaed ai peidio (e.e. mae’n rhaid aros saith diwrnod ar ôl cael eich brechiad Covid-19 cyn rhoi gwaed.)

Dyma’r dyddiadau sydd wedi eu rhestr ar wefan Gwasanaeth Gwaeth Cymru:

  • Iau 18 Tachwedd 2021
  • Mer 24 Tachwedd 2021
  • Iau 25 Tachwedd 2021
  • Mer 08 Rhagfyr 2021
  • Maw 11 Ionawr 2022
  • Mer 19 Ionawr 2022

Amser: 12:00 – 15:00 neu 16:30 – 19:00

I drefnu apwyntiad, dilynwch y ddolen hon.