Ymarferion hoci yn ailddechrau

Croeso i aelodau hen a newydd i ymuno!

Clwb Hoci Merched Caernarfon
logo clwb hoci
criw hoci ifanc 1
criw hoci ifanc 2
criw hoci ifanc 3
criw hoci ifanc 4
criw hoci ifanc 5
criw hoci ifanc 6
criw hoci ifanc 7
criw hoci ifanc 8

Dyma rai lluniau o’r ymarferion a’r gemau cafodd eu cynnal i’r ifanc y tymor diwethaf.

Bydd ymarferion Bl.2-9 yn cychwyn nos Fercher, Medi 8fed a Bl.10+ ac oedolion nos Fercher, Medi 15fed ar gae pob tywydd Ysgol Brynrefail, Llanrug.

Mae Hoci Cymru wedi newid oedran cystadlu’r plant, felly rydym wedi gorfod addasu ein hamserlen hyfforddi i’r isod:

  • 6.00-6.45pm Bl.2 i Bl.7
  • 7.00-7.45pm Bl.8 a 9
  • 7.45-8.45pm Bl.10 i fyny

Mae pawb oedd yn aelod llynedd wedi derbyn e-bost gyda ffurflenni a manylion ymaelodi, cofiwch gysylltu os nad ydych wedi derbyn e-bost!

Os ydych eisiau ymuno â’r clwb, mae croeso i chi gysylltu trwy’n tudalen Facebook

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl, ac yn gobeithio y bydd aelodau newydd yn ymuno â ni!