Adeilad Oriel Llanberis ‘Yma o Hyd’

Dyma farn un o breswylwyr Llanberis a chefnogwr brwd y Wal Goch yn dilyn penderfyniad Pwyllgor Cynllunio, Cyngor Gwynedd, i ddymchwel adeilad ymwelwyr Mynydd Gwerfu yn Llanberis.

gan Elliw Llyr
DSC_0851

Adeilad Mynydd Gwefru wedi cau

Mae cryn anniddigrwydd wedi bod yn ddiweddar pan gyhoeddodd First Hydro eu bod am ddymchwel adeilad a’i droi yn faes parcio gyda nifer o drigolion yn dweud bod digon o lefydd parcio ar gael yn yr ardal a bod hanes i’r adeilad yn lleol pan ddatblygwyd y Mynydd Gwefru yn yr 80au.

Mae hanes sensitif i’r adeilad hwn gan ei fod yn rhan o gytundeb i sicrhau effaith gwaddol datblygiad oedd ar y pryd yn creu dipyn o boen i’r gymuned gyda gwaith adeiladu yn golygu peiriannau trwm, swnllyd a mwdlyd yn mynd trwy’r ardal. Roedd cytundeb yr adeg honno yn un arloesol gydag ymrwymiad i gael hyd at 75% o weithiwyr swyddfa ac 86% yn gweithio ar y datblygiad yn byw yn lleol, roedd hyn yn sicrhau gwerth cymunedol lleol i’r ardal.

Cafwyd cytundeb gyda y CEGB (Central Electricity General Board) i hyn yn ogystal â chael Canolfan Ymwelwyr oedd yn trefnu teithiau i ddangos sut oedd y Mynydd Gwefru yn gweithio ac adnodd cymunedol yn agos i’r pentref. Cafwyd arddangos hen gwch a gafwyd hyd iddo, cyngherddau i’r ardal oedd yn cynnwys Llanddeiniolen, Llanrug a Llanberis yn ogystal ag adnodd lleol.

Pan gynhaliwyd digwyddiad cymunedol gan First Hydro diwedd Mawrth a dechrau Ebrill flwyddyn yma, i rannu gwybodaeth am y cynlluniau i ddymchwel yr adeilad a chreu maes parcio, roedd nifer  yn dweud bod y penderfyniad wedi ei wneud yn barod ac nad oedd pwrpas ymgynghori.

Trefnodd Glyn Hughes neges ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn annog pobl i wrthwynebu newid y safle gan ddweud ‘fel cymuned, mae gennym syniadau gwych ar sut gellir adnewyddu’r adeilad presennol a’i ddefnyddio’n fuddiol ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr yn y dyfodol’.

Mae rhai wedi rhoi sylwadau bod First Hydro wedi anghofio eu cyswllt gyda’r gymuned a’r hyn mae’r adeilad yn ei gynrychioli gydag eraill yn dweud nad oes angen maes parcio arall a byddai yn golygu colli arian sydd yn dwad o ddefnydd maes parcio’r Cyngor sydd yn helpu gyda chadw toiledau cyhoeddus yn agored.

Bydd cyfle nawr i’r gymuned edrych ar yr opsiynau sydd ganddynt dan sylw a bydd yn ôl gyda’r Pwyllgor Cynllunio ar y 5ed o Fedi.