Côr Dre’n barod i berfformio wedi dwy flynedd

Mae’r côr o Gaernarfon yn perfformio yn sioe fawr oleuadau fawr Amdanom Ni ar y Maes

Seiriol - Côr Dre
gan Seiriol - Côr Dre
Stiwdio Sain

Y corau yn Stiwdio Sain

Ymbellhau ac ymarfer yng Nghapel Salem

Ymbellhau ac ymarfer yng Nghapel Salem

Gweithdy symudiadau a goleuadau yn y ganolfan hamdden

Gweithdy symudiadau a goleuadau yn y ganolfan hamdden

Ymarfer yng Nghaersalem

Ymarfer yng Nghaersalem gyda chorau Eifionydd a Kana

Fe laniodd ebost yng nghyfrif Côr Dre ddechrau mis Hydref 2021 yn gwahodd y côr i gymryd rhan mewn digwyddiad awyr agored ar y Maes. Chwe mis yn ddiweddarach, mae’r digwyddiad hwnnw – Amdanom Ni, sy’n sioe oleuadau a thaflunio epig – ar fin glanio yng Nghaernarfon a’r côr yn cyrraedd penllanw’r holl fisoedd o baratoi.

Y cam cyntaf oedd cwrdd â threfnwyr y digwyddiad dros Zoom a dysgu mwy am gyfansoddwr y darn sy’n cael ei berfformio, neb llai na Nitin Sawhney, dyn sydd wedi cydweithio gyda Paul McCartney, Sting a Shakira… a Chôr Dre erbyn hyn!

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn nifer o ddinasoedd a threfi eraill ac roedd aelodau o’r lleoliadau eraill – Derry, Luton, Hull a Paisley – hefyd yn rhan o’r sesiwn, oedd yn gwneud i ni deimlo fel ein bod ni’n rhan fach o brosiect andros o fawr.

Aeth y côr ati i ddysgu’r darn, sydd tua 25 munud o hyd ac yn adrodd stori’r blaned a’i phobl o’r Big Bang hyd heddiw, ym mis Ionawr. Ond oherwydd rheoliadau Covid, roedd hi’n erbyn y gyfraith i’r côr cyfan gasglu ynghyd! Roedd rhaid cyfyngu’r niferoedd i 30 aelodau ym mhob sesiwn ac ymarfer gyda’r dynion a’r merched ar wahân yng Nghapel Salem.

Erbyn mis Chwefror, roedd y rheolau wedi llacio ac roedd y côr yn cael ymarfer gyda’i gilydd o’r diwedd. Cafwyd sesiwn hwyliog iawn yn y Ganolfan Hamdden ganol y mis, pan roedd gweithdy i’r côr i ddysgu’r symudiadau sy’n rhan o’r gwaith. Er nad ydi pob aelod o’r côr yn ddawnsiwr wrth reddf, fe aeth pob aelod amdani, gan ddysgu hefyd am sut i ddefnyddio’r goleuadau cledr llaw sy’n rhan gyffrous o’r perfformiad.

Mae tri côr lleol yn rhan o’r prosiect ac yn sgil cwrdd â’r corau eraill yn y gweithdy, rhoddodd Côr Dre wahoddiad i Gôr Eifionydd a Chôr Kana i ddod i gyd-ymarfer. Ar ôl cyfnod Covid o fethu â chreu cerddoriaeth gyda’n gilydd, roedd hi’n dipyn o wefr i gael canu nid yn unig fel Côr Dre ond gyda’r corau eraill hefyd, sy’n llawn lleisiau cyfoethog a chymeriadau hoffus.

Ganol mis Mawrth, aeth y corau i stiwdio Sain, Llandwrog, i recordio fersiwn o’r darn sy’n rhan o’r sioe, cyn parhau o ddifrif gyda’r ymarferion, bellach wedi newid lleoliad i gapel arall – Capel Caersalem. Fe dyfodd y cyffro go iawn yn y cyfnod hwn wrth i ni weld lluniau a fideos o’r perfformiadau mewn dinasoedd eraill – ac am y tro cyntaf yn dechrau sylweddoli beth yw maint anferthol y cynhyrchiad hwn!

Ar ôl misoedd o drefnu a sesiynau ymarfer lu, mae’r perfformiadau bron â glanio. Fe weithiodd y côr yn galed iawn i gadw ati yn ystod y cyfnod clo – yn ymarfer a chymdeithasu ar Zoom, yna tu allan (yn yr oerfel!) ac o’r diwedd tu mewn. Amdanom Ni fydd perfformiad cyntaf cyhoeddus y côr ers mis Chwefror 2020 ac mae cael gwneud hynny mewn sioe ar raddfa mor fawr – gyda sioe oleuadau a thaflunino anferthol – yn mynd i fod yn wefreiddiol.

Amdanom Ni, ar y Maes yng Nghaernarfon, 30 Mawrth tan 5 Ebrill, 8.45 yr hwyr tan 9.45 bob nos, gyda Chôr Dre yn arwain y perfformiad ar 30 a 31 Mawrth.