Carolau Nadolig yn Stesion

Cyngerdd Côr Clarinet Gogledd Cymru

gan Elliw Llyr
DSC_1049-1
DSC_1050-1

Corach yn y Stesion

Cynhaliwyd pnawn hamddenol o garolau Nadolig yn Stesion Trên Bach pnawn ’ma gan Gôr Clarinét Gogledd Cymru.

Mae’r Côr yn cwrdd bob pythefnos ym Mhorthaethwy ac yn denu pobl ar draws Gogledd Cymru.

Dan arweiniad Joshua Clayton dyma ail gyngerdd y Côr ers cyfnod clo. Daeth Siôn Corn heibio hefyd i ddymuno Nadolig Llawen i bawb!