Cyfyngiadau wedi achosi “storm berffaith” i fusnesau lletygarwch

“Mae prinder o bobol i weithio, ac mae pobol rŵan yn ofnus o ddod allan,” medd un dyn busnes lleol

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Tafarn y Black Boy

Mae un perchennog busnes o Gaernarfon yn dweud y byddai cefnogaeth ychwanegol yn “bwysig iawn” i fasnachwyr ar draws y sector lletygarwch yng Nghymru.

Daw hyn wrth i bennaeth grŵp lletygarwch UKHospitality Cymru rybuddio bod angen rhagor o gymorth ariannol “ar frys” i fusnesau ar ôl Nadolig a blwyddyn newydd “drychinebus” yn ariannol.

O Ddydd San Steffan ymlaen, cafodd cyfyngiadau – fel y rheol grŵp o chwech – eu cyflwyno mewn lleoliadau lletygarwch, megis tafarndai, bwytai a gwestai, a bu’n rhaid i glybiau nos gau eu drysau am y tro.

Fe wnaethon nhw gyhoeddi y byddai cymorth o £120m ar gael i fusnesau yng Nghymru sydd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd neu sydd wedi eu taro gan yr amrywiolyn Omicron.

Mae nifer o fusnesau lletygarwch yn disgyn i mewn i’r categori hwnnw ac wedi gorfod gwneud newidiadau brys i leihau’r effeithiau ariannol arnyn nhw.

‘Storm berffaith’

Dywedodd John Evans, perchennog Tafarn y Bachgen Du yng Nghaernarfon, fod y cyfyngiadau a’r don ddiweddaraf o achosion Covid wedi effeithio arnyn nhw dros y Nadolig.

“Partis i gyd wedi canslo, staff yn hunanynysu achos eu bod nhw’n dal Covid, mae yna brinder o bobol i weithio, ac mae pobol rŵan yn ofnus o ddod allan,” meddai wrth golwg360.

Mae hi’n “bwysig iawn” bod y sector yn cael rhagor gefnogaeth ariannol, yn ôl John.

“Be ddigwyddith mewn rhai wythnosau fyswn i’n meddwl, fydd pobol yn dechrau meddwl – mae ein costau ni’n codi.

“Mae gennych chi’r storm berffaith ‘does. Mae costau trydan a nwy yn codi, cyflogau eu hunain yn codi, ac mae’r nwyddau rydyn ni’n eu prynu mewn i greu bwyd – y costau bwyd – yn codi.

“Ar y funud rydyn ni’n disgwyl yr increases gan y bragdy i weld faint mae cwrw’n mynd i godi.

“Mae o i gyd yn codi’r gost i’r cwsmer, ac wrth gwrs mae gan y cwsmeriaid filiau trydan a nwy eu hunain i’w talu.

“Wrth adio’r rheiny i gyd at ei gilydd, mae hi fel ryw fath o balancing sheet dydi. Mae un ochr yn codi’n aruthrol ac mae’n mynd i effeithio’r ochr arall dydi.”

Mae UKHospitality Cymru wedi dweud y dylid codi’r cyfyngiadau sydd mewn grym yn y sector lletygarwch, ond dydi John Evans ddim yn credu y byddai hynny’n gwneud “lot o wahaniaeth”.